Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Sioe Fawr Ddisglair – Mae’r Arddangosfa Dân Gwyllt yn ôl ar gyfer 2023!
- Categorïau : Press Release
- 18 Hyd 2023

Mae’r Sioe Fawr Ddisglair yn dychwelyd i Trago Mills Merthyr Tudful ar ddydd Gwener y 3ydd o Dachwedd, mewn partneriaeth â Lles Merthyr.
Mae’n addo bod yn noswaith llawn hwyl i’r teulu oll, yn cynnwys sioe dân gwyllt, ffair, cerddoriaeth a bwyd!
Dyma bob dim sydd angen i chi ei wybod…
Dyddiad: Dydd Gwener y 3ydd o Dachwedd 2023
Drysau’n agor: 5pm
Mynediad olaf: 7:15pm (Cyrhaeddwch yn gynnar os gwelwch yn dda er mwyn osgoi unrhyw oedi)
Y Sioe: Bydd yn dechrau oddeutu 8pm.
Bydd y safle’n cau: 9:30pm.
Mae tri dewis o docyn ar gael:
Mynediad a pharcio ar y safle £12
Parcio ar y safle yn Trago Mills a mynediad i bob un o’r teithwyr. (Uchafswm o 7 person i bob cerbyd/ tocyn).
Parcio a Theithio £10
Dewis o dri maes parcio yng nghanol Merthyr Tudful, gyda bws gwennol yn dychwelyd iddynt a mynediad i bob un o’r teithwyr (Uchafswm o 7 person i bob cerbyd/ tocyn).
Dalier sylw: Nid yw’r tocyn hwn yn ddilys ar gyfer pobl sy’n cerdded i mewn drwy’r brif glwyd.
Mynediad Cyffredinol £3
Tocyn mynediad yn unig. Dim mynediad i gerbydau na pharcio lleol.
Dalier sylw: Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio yn y safle ei hun felly bydd y llefydd hyn ar gael i docynnau sydd wedi eu harchebu o flaen llaw YN UNIG. Unwaith bydd pob un o’r tocynnau hyn wedi gwerthu ni fydd mynediad pellach i gerbydau i’r safle, na chwaith yn y meysydd parcio lleol.
Mae opsiynau Parcio a Theithio ar gael o faes parcio Coleg Merthyr ac o faes parcio Canolfan Hamdden Merthyr Tudful.
Prynwch eich tocynnau nawr buytickets.at/tragomills.
Mae gostyngiadau ar-lein ar gael tan 4pm ar ddydd Gwener y 3ydd o Dachwedd. Bydd tocynnau ar y noson ei hun yn costio £5 y person.