Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor a Barnardos i barhau â’u partneriaeth hirdymor i ddarparu “Tîm o Amgylch y Teulu” ar gyfer teuluoedd lleol sydd ei angen fwyaf.
- Categorïau : Press Release
- 01 Rhag 2023

Mae’r Cyngor a Barnardo’s wedi ymestyn eu hymrwymiad i ddarparu cymorth atal i deuluoedd lleol drwy’r Hyb Cymorth Cynnar (EHH). Mae’r cytundeb newydd hwn yn sicrhau y bydd y gwasanaeth yn parhau y tu hwnt i 2026, gan roi cymorth Tîm o Amgylch y Teulu y mae mawr ei angen i deuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan heriau tlodi, iechyd, addysgol, perthnasoedd a rhieni.
Ers mis Ebrill 2022, mae 318 o deuluoedd wedi manteisio ar y cynnig, gan dderbyn asesiad trwy’r Hyb Cymorth Cynnar i edrych ar eu hanghenion unigol, ac yna cael gweithiwr allweddol Barnardo’s i sicrhau bod y cymorth a’r gefnogaeth gywir yn cael eu darparu ar yr amser cywir.
Dywedodd y Cynghorydd Julia Jenkins, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol;
“Mae’r Hyb Cymorth Cynnar yn sicrhau bod lleisiau teuluoedd yn cael eu clywed a bod ganddynt fwy o reolaeth dros ba gymorth y gallant ei gael i wella eu hamgylchiadau. Mae’r cynllun cymorth yn cael ei ddatblygu gyda’r teulu, gan sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud bob cam o’r ffordd.”
“Rydym yn falch bod 92% o deuluoedd sydd wedi cael mynediad i’r cymorth wedi adrodd am welliannau enfawr pan fyddant yn gadael y gwasanaeth.
“Mae hyn yn cynnwys 164 o aelodau teulu yn gweld gwelliant yn eu sefyllfa ariannol, a 268 yn gweld gwelliannau yn eu lles emosiynol meddyliol. Mae’r ystadegau wir yn siarad drostynt eu hunain.”
Dim ond un o’r pecynnau cymorth sydd ar gael drwy ein Hyb Cymorth Cynnar yw Tîm o Amgylch y Teulu, sydd wedi cefnogi 2714 o atgyfeiriadau ers mis Ebrill 2022.
Rhannodd un o'r teuluoedd a ddefnyddiodd y gwasanaeth eu profiad gyda ni;
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r gweithiwr allweddol am fy nghefnogi trwy gyfnod anoddaf fy mywyd. Gyda chymorth a chefnogaeth y gwasanaeth roeddwn yn gallu cael fy mywyd yn ôl ar y trywydd iawn o'r diwedd. Rwy’n llawer gwell nawr yn feddyliol o’r holl gefnogaeth a gefais.”
Os ydych yn breswylydd lleol gyda phlant 0-18 oed, gallwn eich cefnogi gyda chyngor ar:
- Tai
- Cyllid
- Iechyd Corfforol
- Iechyd Meddwl a Lles
- Heriau Ymddygiad
- Addysg a Magu Plant
- Cael mynediad at weithgareddau a chefnogaeth yn y gymuned leol
Am ragor o wybodaeth, neu i gwblhau hunan-atgyfeiriad:
01685 725000
EarlyHelp.Hub@merthyr.gov.uk