Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn ymateb i faterion a godwyd ynglŷn â chofnodi cyfarfodydd a chofnodion y Cyngor
- Categorïau : Press Release
- 04 Ebr 2025

- Arweiniodd camgymeriad gweinyddol ar ôl Cyfarfod Cyngor 5 Mawrth 2025 at uwchlwytho'r fideo anghywir. Cafodd ei gywiro'n brydlon gyda'r recordiad llawn ar gael ar 10 Mawrth 2025.
- Ni chofnodwyd cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 12 Mawrth 2025 oherwydd problem rhwydwaith. Fodd bynnag, mae cofnodion ysgrifenedig ar gael ac mae hyn yn bodloni gofynion cyfreithiol.
- Mae'r Cyngor wedi adolygu'r digwyddiadau hyn, yn cymryd camau i rwystro problemau yn y dyfodol ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
Am ragor o fanylion, gweler y datganiad llawn isod:
Codwyd mater yng Nghyfarfod llawn y Cyngor ar 2 Ebrill ynglŷn â darparu darllediadau cyfarfodydd a chofnodion wedi'u recordio.
Yn dilyn Cyfarfod blaenorol y Cyngor ar 5 Mawrth, diddymwyd rhan o'r fideo oedd wedi'i recordio a'i uwchlwytho ar wefan y Cyngor ar 7 Mawrth. Mae’n cael ei dderbyn mai camgymeriad a arweiniodd at uwchlwytho'r recordiad anghywir ac nid oedd hyn yn faleisus nac yn fwriadol a chyn gynted ag y nodwyd y gwall, cafodd ei gywiro ar unwaith gyda'r recordiad priodol a llawn ar gael i'r cyhoedd ar y wefan ar 10 Mawrth.
Mae adolygiad trylwyr o'r digwyddiad wedi'i gynnal ac mae trefniadau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau na all hyn ddigwydd eto. Mae'n bwysig nodi bod y gyfraith yn nodi nac effeithir ar ddilysrwydd unrhyw drafodion y Cyngor Llawn gan argaeledd neu ddarllediad (boed wrth i'r achosion ddigwydd neu wedyn).
Codwyd mater arall am y Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu ar 12 Mawrth ac awgrymwyd nad oedd darllediad ar gael ochr yn ochr â'r cofnodion yn groes i Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fodd bynnag, mae'r gorchymyn o ddarlledu cyfarfodydd yn electronig yn berthnasol i drafodion yn y Prif Gyngor, Gweithrediaeth y Prif Gyngor neu unrhyw Is-bwyllgorau (ar y cyd) o'r rhain ac nid yw'n ymwneud â Phwyllgorau Cynllunio.
Roedd presenoldeb da yn y cyfarfod dan sylw gan drigolion yn Siambr y Cyngor ac ardal y dderbynfa lle roedd sgrin wedi'i darparu er mwyn dilyn trafodion y pwyllgor. Yn ogystal, ymunodd sawl unigolyn â'r cyfarfod ar-lein. Yn anffodus, effeithiodd gwall rhwydwaith ar y gallu i recordio'r cyfarfod, felly er bod y cofnodion ysgrifenedig ar gael sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, nid oedd recordiad ar gael ar ôl y cyfarfod.
Mae'r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae'r mater hwn wedi'i achosi.