Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Tîm Safonau Masnach y Cyngor wedi bod yn archwilio gorsafoedd petrol ledled Merthyr Tudful.
- Categorïau : Press Release
- 09 Awst 2023
Yn ystod yr argyfwng cost-byw hwn gall gostio tua £70 i lenwi tanc car teulu canolig ei faint, felly mae'n bwysig i breswylwyr fod yn dawel eu meddwl eu bod yn cael y swm cywir o danwydd y maent yn talu amdano. .
Gan ddefnyddio offer mesur arbenigol, gwiriwyd cyfanswm o 105 o bympiau am gywirdeb ar draws y 5 gorsaf danwydd ym Merthyr Tudful. Canfuwyd bod yr holl bympiau tanwydd a brofwyd yn gywir ac o fewn y goddefiannau a ganiateir gan y gyfraith.
Dywedodd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach weithiau’n gweithredu fel gwasanaeth anweledig, gan weithio y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag arferion masnachu annheg.
“Bob dydd mae defnyddwyr yn dibynnu ar gywirdeb disgrifiadau a mesuriadau nwyddau ac mae ein Tîm Safonau Masnach ar flaen y gad o ran sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn ac yn derbyn yr hyn y maent yn talu amdano.”