Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae’r gwesty pryfed yn weledol unigryw ac yn adnodd gwerthfawr i fywyd gwyllt
- Categorïau : Press Release
- 21 Medi 2026
Wedi ei ddylunio ar ffurf logo Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mae’r gwesty pryfed yn weledol unigryw ac yn adnodd gwerthfawr i fywyd gwyllt.
Adeiladwyd y gwesty gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau naturiol yn cynnwys gwiail bambŵ, ffyn a phren, ac fe’i dyluniwyd yn ofalus er mwyn darparu lloches a chyfleoedd i nythu yn ogystal â chreu cynefinoedd sy’n addas i ystod eang o bryfed dreulio’r gaeaf.
Gosodwyd y gwesty o fewn ward y Dref, ardal lle mae cyfleoedd i fywyd gwyllt yn gyfyngedig o ganlyniad i’w natur trefol, ac felly mae’r gwesty’n gam cadarnhaol tuag at gynyddu bioamrywiaeth. Er bod yno brinder amrywiaeth o gynefinoedd yn yr amgylcheddau hyn o’u cymharu ag ardaloedd mwy gwledig, gall ymyraethau bach megis gwestai pryfed chwarae rôl allweddol wrth greu gofod gwerthfawr i bryfed a pheillwyr.
Mae peillwyr a phryfed di-asgwrn-cefn eraill yn elfen hanfodol o ecosystemau iach, drwy gefnogi blodau gwyllt, coed a chynhyrchiant bwyd. Fodd bynnag, mae nifer o rywogaethau yn parhau i fod dan bwysedd o ganlyniad i golled cynefinoedd a newid amgylcheddol. Drwy gyflwyno nodweddion bwyd gwyllt newydd i’r tirlun trefol, mae’r Cyngor yn cynorthwyo i greu amgylchedd sy’n ffafriol i natur ac felly gwella cysylltedd ecolegol ledled y fwrdeistref sirol.
Disgwylir y bydd adrannau bambŵ’r gwesty’n benodol fuddiol i rywogaethau o wenyn unigol. Mae gwestai tebyg mewn mannau eraill o fewn y fwrdeistref sirol wedi bod yn hynod lwyddiannus eleni, gan ddenu dau fath o wenyn sy’n defnyddio coesynnau gwag a phibenni i nythu. Mae’r gwenyn addfwyn, tyner hyn yn rhai o’n peillwyr mwyaf effeithiol am maent yn cyfrannu’n helaeth at fioamrywiaeth leol.
Meddai’r Cynghorydd David Jones, yr Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Chymunedau:
“Ffurfia’r prosiect hwn ran o ymroddiad ehangach y Cyngor i adfywio natur a chynyddu bioamrywiaeth.
Mae’r gwesty pryfed yn gam arall i’r cyfeiriad cywir tuag at greu mwy o le i fywyd gwyllt yng nghanol y dref, yn ogystal â dangos bod cyfleoedd yn bodoli hyd yn oed o fewn ardaloedd trefol, i gefnogi natur a helpu adfywiad bioamrywiaeth.
Drwy ddarparu lloches a chyfleoedd nythu drwy gydol y flwyddyn, bydd y gwesty pryfed yn cefnogi ystod o rywogaethau ac yn cyfrannu at dref fydd yn wyrddach yn iachach ac yn fwy gwydn, rhywbeth fydd o fudd i fywyd gwyllt a’r gymuned leol am flynyddoedd i ddod.”