Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dyfodol gwasanaethau hamdden a diwylliant ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 21 Hyd 2022

Yn dilyn cymeradwyaeth cynnig- Gwasanaethau Hamdden - yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar Fedi’r Seithfed 2022, rydym nawr yn ceisio barn ar ddyfodol y gwasanaethau a’r ddarpariaeth.
Mae’r Cyngor yn ymgynghori gydag aelodau’r cyhoedd, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, yr undebau llafur a phob budd ddeiliad perthnasol ac yn gofyn y cwestiwn canlynol:
Sut ydych chi’n credu y dylai gwasanaethau hamdden a diwylliant ym Merthyr Tudful gael ei rhedeg yn y dyfodol?
Bydd adroddiad llawn ar ganlyniadau’r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ddim hwyrach nag Ionawr 11 2023.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am bythefnos o Hydref 21 i Dachwedd 4.
I leisio’ch barn, cliciwch ar y ddolen hon:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/leisureservices/