Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gweithgareddau Jiwbilî Platinwm y Frenhines Mehefin 2, 2022

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Ebr 2022
queens_platinum_jubilee_english_0

Bydd miloedd o gyhoeddwyr trefi, Brenhinoedd a Breninesau Perl, pibwyr Northumberland, utgyrn a chorau o gymunedau ar draws y deyrnas a’r Gymanwlad, yn perfformio darn o gerddoriaeth a gomisiynwyd yn arbennig cyn goleuo 1500 o goelcerthi am 9.45pm ddydd Iau Mehefin yr 2il 2022.

  • Am 2pm bydd canoed o gyhoeddwyr trefi a 50 Brenin a Brenhines Berl yn cyhoeddi Proclamasiwn yn arwain at oleuo'r coelcerthi yn hwyrach.
  • Am 9.35pm ar draws y DU a’r Gymanwlad, bydd pibyddion traddodiadol Northumbia a band pib yn chwarae Diu Regnare, tiwn wedi ei chyfansoddi yn arbennig at yr achlysur gan y Bib Uwch-gapten, Stuart Liddell, prif bibydd y byd.
  • Am 9.40pm bydd chwaraewyr utgorn lleol yn cyhoeddi tanio'r coelcerthi ar draws y DU a phrifddinasoedd y Gymanwlad gyda galwad utgorn newydd, o’r enw Mawrhydi.
  • Yna am 9.45pm ac i gydamseru gyda thanio'r coelcerthi, bydd corau cymunedol ar draws y gwledydd yn canu Cân i’r Gymanwlad sydd wedi ei gyfansoddi gan Lucy Keily, o Awstralia a Vincent Atueyi Chinemelu o Nigeria.

 

Dwedodd Bruno Peek LVO OBE OPR, Pasiantfeistr Coelcerthi Jiwbilî Platinwm y Frenhines:

“Gan adeiladu ar draddodiad hir o gynnau coelcerthi i nodi dathliadau brenhinol o bwys, bydd dros 1500 coelcerth yn cael eu cynnau ar draws y DU a’r Gymanwlad ar noson gyntaf y Penwythnos Jiwbilî Platinwm (nos Iau Mehefin 2il 2022). Bydd y Coelcerthi yn galluogi cymunedau lleol i uno i dalu teyrnged i’w Mawrhydi'r Frenhines.

“Am y tro cyntaf, bydd cyhoeddwyr trefi, pibyddion, utgyrn a chorau o ar draws y DU a’r Gymanwlad yn uno yn y dathliadau yn eu ffyrdd unigryw. Mae’n hyfryd gweld y gefnogaeth sydd i gynnau'r coelcerthi, sy’n dathlu amrywiaeth ac undod y genedl. Mae’r Frenhines wedi bod yn olau yn ein bywydau ers 70 mlynedd gyda’i gwaith a’i gwasanaeth. Hoffem oleuo'r genedl a’r Gymanwlad iddi.’

Dwedodd Y Gwir Barchedig Justin Welby, Archesgob Caergaint,  “ Rydw in annog Cristnogion a chorau eglwysi ar draws y wlad i ymuno i ganu Cân I’r Gymanwlad am 9.45pm ar Fehefin 2, 2022 fel mae Coelcerthi Jiwbilî'r Frenhines yn cael eu cynnau ar draws y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw ac ym mhob un o brif ddinasoedd y Gymanwlad. Bydd hon yn ennyd o ddathliad wrth uno cenedlaethau, cymunedau ffydd a phobl ar draws y byd mewn teyrnged i’w Mawrhydi'r Frenhines.”

Dwedodd Alan Hay, Cadeirydd y Gymdeithas Geltaidd Frenhinol, a Noddir gan y Dywysoges Frenhinol, “ Rydym yn cydnabod ymrwymiad enfawr ei Mawrhydi'r Frenhines I wasanaethu'r Gymanwlad a’i phobl Rydym yn annog ein holl aelodau i gymryd rhan yn nathliadau’r Jiwbilî wrth i bibyddion chwarae Diu Regnare, a gyfansoddwyd gan ein haelod  Stuart Liddell mewn teyrnged i’r digwyddiad hanesyddol.”

Dwedodd Melanie Nightingale, Arweinydd Côr Gwragedd y lluoedd Arfog, “Mae ein rhwydwaith yn uno 70 o gorau mewn cân, ac edrychwn ymlaen at rannu'r digwyddiad hanesyddol hwn. Mae dathlu'r achlysur mewn cân yn addas. Mae ein hangerdd dros ganu yn amlwg ac rydym yn falch i allu perfformio mewn digwyddiad arbennig ar gyfer ei Mawrhydi'r Frenhines ar Ddathliad ei Jiwbilî Platinwm yn nodi 70 mlynedd yn teyrnasu'r Gymanwlad..”

Dwedodd Dr Nicola Brady, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwysi Ynghyd Prydain ac Iwerddon, “ Rydym yn falch i gefnogi'r fenter ac yn gobeithio y bydd llawer o gorau yn cymryd rhan wrth ddiolch am gyfraniad Ei Mawrhydi dros y degawdau a fu ac yn y dyfodol.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni