Ar-lein, Mae'n arbed amser
Panel Heddlu a Throseddu De Cymru yn cwrdd â Ms Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd De Cymru
- Categorïau : Press Release
- 11 Gor 2024

Cafodd Panel Heddlu a Throseddu De Cymru sy’n cael ei gynnal a’i weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful y pleser o gwrdd ag Emma Wools am y tro cyntaf ers iddi gael ei hethol i swydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
Dywedodd Ms Wools, a fu’n Ddirprwy Gomisiynydd i Mr Alun Michael o’r blaen, wrth y Panel y bydd ei ffocws fel Comisiynydd ar blismona cymunedol, atal trosedd, amddiffyn y diamddiffyn, cefnogi dioddefwyr a chymunedau, darparu cyfiawnder i’r rhai sy’n cyflawni trosedd. lleihau aildroseddu a gwneud plismona yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae Panel Heddlu a Throseddu De Cymru yn cynnwys 2 aelod annibynnol a 10 aelod cyngor lleol a etholwyd yn ddemocrataidd o'r saith awdurdod lleol sy'n rhan o ardal Heddlu De Cymru. Mae’r Panel yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn i adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wneir gan y Comisiynydd mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau.
Gweler y ddolen i agenda cyfarfod y Panel a phecyn adroddiadau ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Orbit ar Fehefin 19eg 2024: democracy.merthyr.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=349&MId=6377&Ver=4&LLL=0
DIWEDD