Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y siop arbenigol a fydd yn gyrchfan i redwyr y Cymoedd!

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Mai 2023
Sole Mate

Ni fydd rhaid i redwyr Cymoedd De Cymru orfod teithio i gael dadansoddiad osgo aer gyfer yr esgidiau rhedeg mwyaf addas bellach- diolch i siop redeg arbenigol cyntaf Merthyr Tudful.

Sole Mate ym Mhontmorlais yw'r unig siop o’i math rhwng Caerdydd a Lerpwl. Mae ganddynt ddewis helaeth o esgidiau, dillad ac offer eraill ac yn cynnig asesiad bio fecanyddol ac mae ffisiotherapydd sy’n arbenigo mewn anafiadau chwaraeon yn ymweld dwywaith yr wythnos.

Mae’r perchennog Paul Thomas yn cydnabod dylanwad rhedeg am helpu ei iechyd meddwl ac mae’n anelu at ‘adeiladu cymuned’ o amgylch y busnes, gyda ‘byrddau sgwrsio’ yn y siop i helpu gydag unigrwydd ble gall pobl ddod mewn am baned a sgwrs. Mae Paul a’i bartner Lucy Powell, sydd hefyd yn gweithio yno, yn chwilio i gyflogi therapydd iechyd meddwl hefyd.

“Wedi gweithio ym maes TG ers dros 20 mlynedd a ddim wedi mwynhau'r 10 diwethaf, rwyf wedi darganfod rhedeg, a hwn yw fy mhrif angerdd bellach,” meddai Paul. “Mae wedi helpu gyda fy iechyd meddwl yn sylweddol, wedi rhoi ffocws i mi ac wedi galluogi i mi ddianc am awr gan roi cyfle i’r meddwl brosesu pethau.”

Ar gopa Pen-y-Fan yng nghanol marathon ultra 30 milltir yn y gwynt ar glaw fis Tachwedd y llynedd y penderfynodd Paul newid gyrfa a throi ei hobi yn waith.

Roedd wedi cael llond bola r archebu dillad a sgidiau ar -lein a gorfod eu hanfon yn ôl; neu orfod teithio i Gaerdydd a thalu i barcio - felly penderfynodd agor siop yn lleol.

“Mae dadansoddi osgo hefyd yn dipyn o ben tost - un ai deithio i Gaerdydd neu brynu gwadnau mewn siopau chwaraeon cyffredinol,” meddai. “Yn ein siop mae gennym y dechnoleg ddiweddaraf y mae cwmni esgidiau rhedeg yn ei ddefnyddio i gasglu data are u hesgidiau. Ni yw’r unig siop yn y DU gyda’r dechnoleg hon.”

Gan ei fod erioed wedi rhedeg ei fusnes ei hun o’r blaen, cysylltodd Paul gyda Chyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful i holi am leoliad a death i gysylltiad gyda Chanolfan Fenter Merthyr Tudful (CMMT) am gymorth gyda chreu cynllun busnes.

Gweithiodd nesaf gyda Banc Datblygiad Cymru i gael cymorth gydag ariannu’r stoc a goroesi’r chwe mis cyntaf. Cefnogodd y Cyngor Sole Mate gyda chostau sefydlu’r busnes ac ariannu pethau fel dodrefnu’r siop, system wrth ladrad, teledu Cylch Cyfyng a modelau i ddangos y dillad.

Mewn cyfarfodydd gyda chwmnïau yr oedd Paul yn awyddus i werthu eu cynnyrch, derbyniodd Paul ymateb brwdfrydig. “Roeddent yn hoffi’r ffaith taw ni fyddai’r unig siop redeg rhwng Caerdydd a Lerpwl, ein lleoliad nepell o Fannau Brycheiniog - a’r ffaith bod cymuned redeg gref ar y ffordd ac ar lwybrau yn yr ardal,” ychwanegodd.

Cyn i Sole Mate agor ei drysau, daeth Athletau Cymru, corff llywodraethu’r gamp i wybod am y siop a gofyn i Paul fod yn bartner i werthu eu nwyddau craidd ar-lein ac yn y siop “Roeddent yn awyddus i gael partneriaeth yng Nghymru a gan ein bod yn datblygu ein siop ar-lein ar y pryd, roedd y bartneriaeth yn un perffaith,” ychwanegodd

Mae cwsmeriaid yn dod i’r siop o ar draws Cymru. “Maent yn hoffi dod mewn a siarad am redeg a gallu cyffwrdd a theimlo'r nwyddau - mae’n llawer gwell na’r risg o brynu ar-lein.

“Mae cymysgedd mawr o bobl yn dod yma, o ddechreuwyr pur, i hyfforddwyr marathon ultra- fe redodd un dyn o Gaerdydd a phrynu dau grys, cyn rhedeg yr 28 milltir yn ôl i Gaerdydd! Mae’r ymateb wedi bod yn anghredadwy!”

Dwedodd y Maer y Cynghorydd Declan Sammon bod agoriad siop arbenigol yn rhywbeth i’w groesawu, yn arbennig oherwydd y bri sydd i redeg ar y funud o fewn y fwrdeistref.

“Mae’r gwasanaeth holistig a gynigir gan Paul a Lucy gyda therapydd chwaraeon ac iechyd meddwl wedi creu argraff,” ac ychwanegodd “ Mae llawer o bobl yn cychwyn rhedeg oherwydd y lles i iechyd meddwl- a ble’n well i wneud y gorau o hyn ond wrth fwynhau golygfeydd godidog ein bwrdeistref sirol?”

Gwefan Sole Mate www.sole-mate.uk/ <http://www.sole-mate.uk/>  Rhif ffôn 01685 673988

Instagram: www.instagram.com/solematerunninguk/

Facebook: www.facebook.com/solematerunning

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni