Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwobrau Dewi Sant!
- Categorïau : Press Release
- 10 Hyd 2024

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru. Mae'r Gwobrau unigryw hyn, sydd bellach yn eu 12fed flwyddyn, yn cydnabod llwyddiannau eithriadol ein harwyr di-glod cyffredin – unigolion, sefydliadau, cwmnïau a grwpiau o bob cwr o Gymru ar draws 11 categori.
Mae’r Gwobrau yn ddathliad cynnes a bywiog o waith eithriadol yr enwebeion yng Nghymru a thu hwnt.
Y flwyddyn hon mae gennym gategorïau newydd a chyffrous. Bydd y wobr Gwasanaethu’r Cyhoedd yn canolbwyntio ar y GIG a'r sector addysg.
Ein categorïau ar gyfer 2024-25
- Dewrder
- Busnes
- Arwr Cymunedol (newydd ar gyfer 2025)
- Diwylliant
- Ceidwad yr Amgylchedd
- Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Gwasanaethu’r Cyhoedd (newydd ar gyfer 2025)
- Chwaraeon
- Person Ifanc
- Gwirfoddoli (newydd ar gyfer 2025)
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog
Dyma'ch cyfle i gydnabod y bobl eithriadol hynny yn eich cymuned chi sy'n eich gwneud yn falch o fod yn Gymry. Rhannwch eu stori a'u henwebu ar gyfer cydnabyddiaeth genedlaethol.
Bydd enwebiadau yn cau ar 25 Hydref 2024.
Cewch enwebu’n rhwydd drwy ein ffurflen ar-lein Enwebwch ar gyfer Gwobrau Dewi Sant | LLYW.CYMRU
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: gwobraudewisant@llyw.cymru