Ar-lein, Mae'n arbed amser

Eu Mawrhydi, y Brenin a'r Frenhines a Thywysog Cymru i ymweld ag Aber-fan i goffáu 60 mlynedd ers y drychineb.

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Hyd 2026
Aberfan Cem

Bydd y Brenin, y Frenhines a Thywysog Cymru yn ymweld ag Aber-fan, Merthyr Tudful, ddydd Mercher 21 Hydref, er mwyn nodi 60 mlynedd ers trychineb Aber-fan a thalu teyrnged i'r bywydau a gollwyd y diwrnod hwnnw.

Ar 21 Hydref 1966, collodd 144 o bobl – gan gynnwys 116 o blant, eu bywydau yn drasig pan lithrodd tomen wastraff i lawr mynydd ac amlyncu Ysgol Pantglas a rhai o'r tai cyfagos.

Yng Ngardd Goffa Aber-fan, sydd ar safle Ysgol Pantglas, lle bu farw 109 o blant a 5 athro, bydd y teulu Brenhinol yn talu teyrnged i’r rhai a gollodd eu bywydau mor drasig.

Bydd Eu Mawrhydi a’r Tywysog hefyd yn mynychu Canolfan Gymunedol Aber-fan ac Ynysowen gan dreulio amser gyda goroeswyr, rhieni gafodd brofedigaeth, cyn-ddisgyblion a brodyr a chwiorydd y rhai a fu farw, gan ddod ynghyd a chofio pawb a gollwyd.

Yna, bydd Tywysog Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen i gwrdd â disgyblion ac athrawon sy'n ymwneud â phrosiectau i nodi'r coffa a dadorchuddio Coeden Goffa Aber-fan.

Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: "Ar 21 Hydref 1966 dioddefodd pentref Aber-fan golled anhygoel. Bydd y digwyddiad coffa hwn yn arbennig o ingol a bydd pobl yn dod o bell ac agos i dalu eu teyrnged a chofio’r bywydau a gollwyd y diwrnod trasig hwnnw.

"Mae'n anrhydedd ac yn fraint croesawu Eu Mawrhydi a Thywysog Cymru i Ferthyr Tudful ar y diwrnod arwyddocaol hwn."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni