Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ddoe a Heddiw: Adeilad eiconig Siambrau Milbourne Merthyr Tudful trwy’r degawdau

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Tach 2022
Casa Bianca old

Adeilad Siambrau Milbourne — adwaenir gan lawer yn lleol fel ‘Cornel Samuel’s’ oherwydd i’r siop gemydd, H. Samuel’s fod yn yr adeilad am flynyddoedd – yw un o adeiladau mwyaf eiconig canol tref Merthyr Tudful.

Ac ym mis Tachwedd 2022, bydd yr adeilad Fictoraidd yn dod yn gartref i un o’r mentrau busnes mwyaf cyffrous eto, wrth i’r bwyty Eidalaidd, Casa Bianca agor ei ddrysau ar y gornel.

Bydd y gadwyn o fwytai Cymreig poblogaidd yn agor ar gornel Stryd y Clastir a’r Stryd Fawr - gan ddod a blas o dde’r Eidal i ganol Merthyr Tudful.

I nodi’r bennod, dyma ddarlun cyflym o Siambrau Milbourne drwy’r degawdau…


Swyddfa Bost: 1870s - 1903

Perchennog cyntaf yr adeilad a’r tir o’i gwmpas oedd William Milbourne Davies, postfeistr cyntaf Merthyr Tudful. Oherwydd ei gyflwr peryglus, ailadeiladwyd a thrawsnewidiwyd yr adeilad gan ei ddisgynyddion i’r adeilad sy’n sefyll heddiw, a fei’ henwyd yn ‘Siambrau Milbourne’ er parch iddo.

Yn gartref i brif Swyddfa Bost Merthyr Tudful, roedd yr adeilad yn allweddol i gymuned brysur Ferthyr Tudful, ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau.. adeiladwyd bloc newydd ar ochr y swyddfa bost - y rhan uchaf yn gartrefi a swyddfeydd crand. Yng nghefn yr adeilad roedd gweithdai ar gyfer creu a thrwsio oriorau a gemwaith, yn rhagflaenu'r hyn a oedd dod.

Yn 1903 ar ôl 30 mlynedd yn gwasanaethu'r gymuned, symudodd y swyddfa bost i adeilad newydd ar Stryd John, gan adael yr adeilad godidog ar werth.

JD Williams: 1904 – 1907

Mae gan y lleoliad gysylltiadau cryf gyda’r diwydiant gemau, gan ddod yn gartref i nid un ond dau o siopau gemydd mwyaf poblogaidd Cymru – y cyntaf oedd J.D Williams.

Roedd J.D Williams yn siop gwerthu gemau ac oriorau o safon uchel a sefydlwyd gan frodor Merthyr Tudful- James David Williams. Yn dilyn prentisiaeth fel gwerthwr haearn a theithio o amgylch y DU i ddysgu ei grefft, dychwelodd i Ferthyr Tudful i agor ei siop ei hun.

Yn dilyn marwolaeth annisgwyl James, etifeddodd ei fab, Frederick Carlyle Williams y busnes a’i redeg dan enw ei dad a symud i’r adeilad yn Siambrau Milbourne.  

Gosodwyd y cloc eiconig ar frig yr adeilad, i wynebu lawr y Stryd Fawr Isaf i hysbysebu'r busnes a dathlu cyhoeddi Merthyr Tudful fel Bwrdeistref Sirol- a ddaeth yn swyddogol yn 1908. Roedd hon yn foment hanesyddol i’r dref, gyda’r rhyddid i reoli ei hun yn annibynnol i’r sir flaenorol, Morgannwg.

Roedd y cyfuniad o’r enw copr uwchben y drws a’r cloc uwchben yn gwneud yr adeilad yn dipyn o olygfa- ac mae’r cloc hyd heddiw yn un o brif nodweddion canol y dref

H Samuel: 1907 - 1999

Yn 1907, gwerthwyd JD Williams i gadwyn o siopau gemydd eraill, H. Samuel. Cychwynnodd y perchennog, Walter Samuel, fasnachu yn Preston yn 1890 ond tyfodd y busnes yn gyflym trwy Loegr a Chymru.

Roedd y cyfuniad busnes mor boblogaidd gyda phobl leol i’r busnes redeg dan y ddau enw ym Merthyr Tudful am dros 90 mlynedd.

Samuel oedd hoff siop emydd y dref tan 1999, pan symudodd y busnes o’i dau leoliad ar y Stryd Fawr i adeilad newydd yn 6 Ffordd Graham yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful – ble mae’n masnachu hyd heddiw.

Ladybirds: 2000 - 2013

Y busnes nesaf yn yr adeilad oedd y siop drin gwallt a harddwch poblogaidd, Ladybirds, a fu’n masnachu yn llwyddiannus am 13 mlynedd.

Sefydlwyd y busnes teuluol, Ladybirds Hair Centre, yn 1972 ac mae nawr yn berchen gan Paula Crimmings, a gymrodd y busnes drosodd oddi wrth ei mam.

Yn 2013, penderfynwyd symud y busnes i Stryd yr Alarch ym Merthyr Tudful, ac eleni, mae’r busnes yn dathlu 50 mlynedd fel rhan o’r gymuned.

Casa Bianca: y presennol

Pan fydd wedi agor, Casa Bianca fydd y trydydd eiddo yng nghadwyn Gymreig Andreas Christou — gyda’r lleoliadau ym Mhontypridd a’r Fenni yn boblogaidd ac yn denu pobl ar draws De Cymru.

Mae disgwyl i’r lleoliad ym Merthyr  i fod yr un mor drawiadol, gyda choed olewydd yn tyfu o’r nenfwd- yn ganopi dramatig i fwyta oddi tani.

Wedi ei wneud yn bosib gan fuddsoddiad gan gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mae disgwyl i’r fenter ddiweddaraf ddilyn yn llwyddiannus ar ôl busnesau llewyrchus y gorffennol.

Dwedodd yr Arweinydd y Cyng. Geraint Thomas: “Mae’r Cyngor yn hynod o falch bod bwyty mor amlwg â Casa Bianca yn agor yng nghanol y dref. Nid yn unig ydy hi’n wych gweld yr adeilad yn llawn bywyd eto, ond mae’n creu swyddi ar gyfer pobl leol a chynnig bwydlen newydd ar gyfer cwsmeriaid lleol ac ymwelwyr.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni