Ar-lein, Mae'n arbed amser
Enwyd Tri Pharc ym Merthyr a Mynwent Aberfan ymysg y llefydd gwyrdd gorau ystod Gwobrau Baner Werdd Cymru 2026/27, a chydnabuwyd gwirfoddolwyr lleol gyda 18 Gwobr Gymunedol
- Categorïau : Press Release
- 15 Gor 2026
Unwaith eto, enwyd tri o barciau Merthyr Tudful a Mynwent Aberfan ymysg y llefydd gwyrdd gorau yng Nghymru, wrth i Cadwch Gymru’n Daclus gyhoeddi Gwobrau Baner Werdd 2026/27.
Llwyddodd Parc Cyfarthfa, Parc Taf Bargod a Pharc Thomastown i ennill statws y Faner Werdd ar gyfer 2026/27, ar y cyd â Mynwent Aberfan.
Dengys y Baneri Gwyrdd bod y pedwar lleoliad wedi cyrraedd y safonau uchaf o ran bod yn ddiogel, wedi eu cynnal yn dda a’u cadw’n lân, bod rheolaeth amgylcheddol wych iddynt, a’u bod yn llefydd croesawgar.
Maent ymysg 93 o fannau yng Nghymru i dderbyn statws lawn y Faner Werdd yn 2026/27. Cydnabyddir y wobr yn fyd-eang ac mae’n dathlu’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau oll, fel bod ymwelwyr yn gwybod lle bynnag y mae baner werdd, maent yn ymweld â lle arbennig o’r safon uchaf.
Yn ogystal â hyn, mae 18 lle gwyrdd o fewn Merthyr wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Dathla’r gwobrwyon hyn lefydd o safon uchel sydd wedi eu rheoli gan wirfoddolwyr, llefydd megis rhandiroedd, gerddi cymunedol a gwarchodfeydd natur lleol.
Llwyddodd Chepstow Close Green, Gerddi Cymunedol Stablau Dowlais a Phwll Canol Penywern i ennill Gwobr Gymunedol am y tro cyntaf, diolch i’r ymdrech gan fawr gan y gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod y llefydd hyn ar gael i’w mwynhau gan y gymuned gyfan.
Enillodd cyfanswm o 237 o lefydd gwyrdd ledled Cymru’r anrhydedd hon ar gyfer 2026/27, gan gynorthwyo Cymru i gadw’r fraint am y drydedd flwyddyn yn olynol o ddal mwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall sy’n cynnal rhaglen y Faner Werdd yn y byd.
Yng Nghymru, Cadwch Gymru’n Daclus sy’n cynnal Gwobrau’r Faner Werdd, wedi eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Meddai Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, Owen Derbyshire:
“Rydym wrth ein bodd yn gweld cymaint o fannau gwyrdd ym Merthyr Tudful yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau'r Faner Werdd eleni, gyda chyfanswm trawiadol o 22 o wobrau. O barciau a gwarchodfeydd natur i goetiroedd a gerddi cymunedol, mae'n amlwg bod y sir yn blaenoriaethu ansawdd ar draws pob math o fannau gwyrdd, fel y gall pawb eu mwynhau.
Llongyfarchiadau i bob enillydd, gan gynnwys Chepstow Close Green, Gerddi Cymunedol Stablau Dowlais s a Phwll Canol Penywern am ennill eu Gwobrau Cymunedol Baner Werdd cyntaf. Mae gwirfoddolwyr ymroddedig ym mhob safle cymunedol wedi gweithio'n galed i sicrhau y gall y gymuned gyfan fwynhau'r mannau gwyrdd hyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd David Jones, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful dros Newid Hinsawdd a Chymunedau:
“Mae ennill statws y Faner Werdd, am flwyddyn arall yn olynol, yn dangos yn wirioneddol y gwaith caled sy’n mynd yn ei flaen i gynnal a chadw ein parciau a’n mannau gwyrdd, gan yr holl staff a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n gysylltiedig.
“Fel Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Chymunedau, ar ran y Cyngor cyfan, hoffwn gyfleu ein diolchgarwch a’n llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig.
“Byddwn yn annog pawb sy’n ymweld â’n Bwrdeistref Sirol yr haf hwn i ystyried treulio amser yn ein mannau gwyrdd arobryn a gwneud y gorau o’r mannau naturiol hardd hyn.”