Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tair Siop ym Merthyr Tudful yn cael eu herlyn am werthu Sigarets i blentyn 15 oed.

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Meh 2023
No ID No Sale.png

Mae tair siop ym Merthyr Tudful wedi cael eu herlyn am werthu Sigarets i wirfoddolwr dan oed.

Ym mis Ebrill a Mai y blwyddyn hyn, fel rhan o arolygon pwrcasu parhaus a gynhelir gan y Tîm Safonau Masnach Merthyr Tudful, mae tair siop gornel leol wedi cael eu herlyn yn llwyddiannus am werthu sigaréts i wirfoddolwr 15 oed.

Plediodd Clover Road Stores Limited yn gweithredu o Clover Road, Gurnos yn euog, a chafodd ddirwy o gyfanswm o £500 a gordal dioddefwr o £200 ynghyd â £460.50 o gostau.

Plediodd Karalasingam Pirapathan o The Trading Post, Galon Uchaf Road yn euog a chafodd ddirwy o gyfanswm o £500 a gordal dioddefwr o £200 ynghyd â £480 o gostau.

Plediodd Malcolm Brown o The Corner Shop, 1 Cross Street, Aberfan yn euog a chafodd ddirwy o gyfanswm o £273 a gordal dioddefwr o £109 ynghyd â £260 o gostau.

Ym mhob achos dywedwyd wrth y llys bod Swyddog yn dyst i’r gwerthiant a gwerthwyd y sigaréts i’r gwirfoddolwr ar bob achlysur heb gael ei herio am I.D.

Dywedodd Craig Rushton, Arweinydd Tîm Safonau Masnach, “Roedd yn siomedig bod 3 siop yn gwerthu sigaréts i’n gwirfoddolwr 15 oed heb herio I.D. byddwn yn parhau i gymryd camau yn erbyn y rhai sy’n torri’r gyfraith ac yn gwerthu tybaco i blant dan oed.”

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds Aelod Cabinet dros Diogelu’r Cyhoedd “Nid yw’n dderbyniol i’r siopau hyn fod wedi torri’r gyfraith drwy werthu sigaréts i blentyn 15 oed.

“Rwy’n cymeradwyo’r gwaith y mae Safonau Masnach Merthyr Tudful yn ei wneud ac rwy’n annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw fasnachwr y maent yn credu sy’n gwerthu sigaréts i rai dan 18 oed”.

Gallwch riportio siopau sy'n gwerthu tybaco a sigaréts i'r rhai dan oed ar-lein yma:

merthyr.gov.uk/business/trading-standards/report-a-trading-standards-issue

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni