Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwaith diogelu cerddwyr canol y Dref i ddechrau yn y Flwyddyn Newydd

  • Categorïau : Press Release
  • 17 Rhag 2021
Victoria Street crossing

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) er mwyn atal yfed a chymryd cyffuriau ar y stryd mewn ardal dan waharddiad ynghanol y dref.

Bydd y Gorchymyn yn caniatáu’r Heddlu neu Swyddogion Gorfodi’r Cyngor i gyflwyno hysbysiad cosb penodedig o £100 a gallai methiant i’w dalu arwain at erlyniad a dirwy yn y llys o hyd at £1,000.

Bydd y gwaith yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd I wneud croesi’r ffordd yng nghanol y dref yn fwy diogel i gerddwyr.

Yn dilyn ymgynghoriad yr haf diwethaf, bydd y groesfan ‘anffurfiol’ ar Stryd Fictoria yn dod yn groesfan Sebra gydag ardal wedi ei godi lletach ar gyfer cerddwyr.

Mae’r project yn un o gyfres o welliannau cerdded a seiclo gan y Cyngor fel rhan o’r cynllun Teithio Llesol sydd wedi ei gyllido yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Dwedodd y Cyng. Geraint Thomas, yr aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Masnacheiddio, “ Mae pobl yn gofyn yn aml beth yn union yw teithio llesol.

Mae annog pobl i gerdded a seiclo mwy yn allweddol yn Strategaeth Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

“Er mwyn adeiladu teithio llesol i drefn ddyddiol pobl, rhaid sicrhau bod cerdded a seiclo yn brofiadau mwy diogel a pleserus i bawb. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i ni i wneud y gwaith yma.”

Bydd cynnydd mewn teithio llesol yn golygu llai o deithiau mewn car a hefyd yn hyrwyddo'r canlynol:

• gwella lles corfforol a meddyliol
• cefnogi ffyniant economaidd
• gwella’r amgylchedd a bioamrywiaeth
• lleihau tagfeydd
• gwella safon bywyd

Ychwanegodd y Cyng. Thomas : “Fe fydd peth anghyfleustod yn ystod y gwaith o tua thair wythnos, ond byddwn yn gwneud ein gorau i leihau effaith yr anghyfleustod hyn.”

Fe fydd y gwaith ar hyn o bryd i greu llwybr wedi ei rannu ar gyfer cerddwyr a seiclwyr ar hyd Avenue de Clichy, y system gylchog ac ar hyd Stryd Bethesda yn cael ei oedi dros gyfnod y Nadolig o Ragfyr 17. Bydd yn ail ddechrau yn y Flwyddyn Newydd.

Gallwch weld y cynllun yma

E-bostiwch unrhyw sylwadau at active.travel@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni