Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwella goleuadau traffig fel rhan o gynlluniau Teithio Llesol

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Ebr 2021
New Cyfarthfa traffic lights

Bydd modurwyr, seiclwyr a cherddwyr yn elwa wrth i hen oleuadau traffig gael eu hamnewid ar ffordd brysur ym Merthyr Tudful fel rhan o gynlluniau’r Cyngor i wella Teithio Llesol ledled y fwrdeistref sirol.

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Mawrth nesaf (6 Ebrill) ar y signalau wrth gyffordd yr A4102 ble mae’n croestorri â’r A4054 Heol Cyfarthfa a Stryd Nantygwenith, ger Parc Manwerthu Cyfarthfa.

Caiff y golau, sydd dros 20 mlwydd oed, dechnoleg fwy deallus i wella llif cerbydau. Tra bo’r gwaith yn cael ei gyflawni, mae’r Cyngor hefyd yn cymryd y cyfle i wella’r cyfleustra croesi’r ffordd sy’n cael ei rannu â llwybr Taith Taf.

Ar hyn o bryd, mae pâl dwywedd a reolir gan signal ar hyd Taith Taf yn golygu fod yn rhaid i bobl sy’n croesi stopio hanner ffordd ac aros ar lain ganol am olau gwyrdd arall.

Bydd twcan unwedd yn cymryd ei le, i alluogi seiclwyr a cherddwyr i groesi’r ffordd mewn llinell syth heb orfod aros yn y canol.

Cam cyntaf gwelliannau Teithio Llesol yn yr ardal yw’r gwaith a’r cynllun yw parhau gyda gwelliannau pellach ar hyd Stryd Bethesda yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Disgwylir i’r gwaith gymryd pedair wythnos, a chaiff rheoli traffig a llif traffig eu cynnal fel bod cyn lleied o anghyfleustra i ddefnyddwyr y ffordd, gyda chroesfannau dros dro i gerddwyr yn Heol Abertawe, Stryd Nantygwenith a Stryd Bethesda.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni