Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gweddnewidiad parc lleol sy’n ennil gwobr Pro Landscaper
- Categorïau : Press Release
- 28 Tach 2023

Yn ddiweddar enillodd Gardd Rhodd Natur, prosiect i weddnewid cwrt tenis a oedd wedi mynd a’i ben iddo, wobr Gofod Gwyrdd Cymunedol dan £50,000 Pro Landscaper.
Nodwyd yr ardal fel lle cyhoeddus, agored a ddefnyddir yn aml ond sy’n brin o amrywiaeth flodeuol a chyfleoedd addysgol, felly, gan ddefnyddio dros £44,000 o gronfa Partneriaeth Natur Lleol Llywodraeth Cymru, aeth swyddogion bioamrywiaeth ati i drawsnewid yr ardal o darmac i werddon o blanhigion defnyddiol y gellid eu mwynhau gan bawb.
Casglwyd planhigion arbenigol – yn cynnwys planhigion meddyginiaethol, perlysiau coginio, planhigion da i’w bwyta, planhigion sy’n oddefgar o syched a phlanhigion cynhenid wedi eu clystyru yn ôl lliw ar gyfer y pryfed peillio - casglwyd y rhain o hyd a lled y Deyrnas Unedig, a thyfwyd rhai gan ein staff ein hun, hyd yn oed, o hadau a gawsom wrth gwmnïau hadau arbenigol. Crëwyd gwlâu blodau gan ddefnyddio ymylon alwminiwm ac ymgorfforwyd gwastraff gwyrdd wedi ei ailgylchu er mwyn darparu cynnwys organig i’r planhigion. Yn ogystal â hyn oll ychwanegwyd ffyngau pridd er mwyn gwella iechyd y pridd a’r amodau tyfu.
Cyflwynwyd eisteddleoedd ac mae paneli dehongli yn cynnig gwybodaeth ar y gofod hwn a’i fuddiannau.
Meddai’r Cynghorydd David Hughes, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau’r Gymuned: “Am weddnewidiad gwych! Hoffwn longyfarch a diolch i’r holl swyddogion a’r gwirfoddolwyr a fu’n rhan o greu lle mor brydferth a chroesawgar i’r sawl sy’n ei ddefnyddio. Roedd hwn yn ymdrech wirioneddol gyfunol, gyda gwirfoddolwyr yn cynorthwyo i bigo cerrig, i chwynnu, i frigdorri ac i blannu.
“Mae’r tîm eisoes wedi derbyn canmoliaeth rif y gwlith gan bobl leol sy’n defnyddio’r parc, ac rydym yn gobeithio y bydd y gofod hwn yn un fydd yn cael ei fwynhau gan sawl cenhedlaeth i ddod.”
Os ydych chi’n aelod o’r gymuned leol ac yn diddori mewn cynnal y safle hwn, cysylltwch â gill.hampson@merthyr.gov.uk.