Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ailwampio Llyfrgell Treharris
- Categorïau : Press Release
- 02 Maw 2022

Mewn cyfarfod Llawn o’r Cyngor heddiw, cytunwyd fel rhan o Raglen Cyfalaf ar gyfer 2022/23 hyd 2025/26 fod cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer ailwampio Llyfrgell Treharris.
Dwedodd yr Arweinydd, Y Cyngh Lisa Mytton: “Yn y mis diwethaf mae’r Cyngor wedi cynnal dau gyfarfod mewnol gyda’r ffocws yn bennaf ar ailwampio’r cyfleusterau a sut i gyllido’r gwaith. Mae’n amlwg bod y Cyngor yn credu bod cynllun strwythuredig mewn lle i’w weithredu yn syth. Mae Tîm Eiddo’r Cyngor wedi datblygu cynllun gwerth £750,000 ar gyfer y gwaith. Y bwriad yw ariannu’r project o Raglen Gyfalaf y Cyngor gyda £500,000 yn cael ei wario yn 2022/23 a’r £250,000 yn weddill yn 2023/24.”
Trafodwyd y proffil cost mewn cyfarfod Cabinet yr wythnos diwethaf, gydag argymhelliad iddo gael ei dderbyn mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Mae’r Cyngor wrthi yn datblygu dogfennau tendro a manyleb sydd angen caniatâd CADW. Mae hefyd angen i’r Cyngor gynnal arolwg ystlumod ac ecolegol ar yr adeilad na all ddigwydd tan fis Mai / Mehefin eleni. Ar ôl dewis datblygwr addas gallwn ddiweddaru preswylwyr gydag amserlen ar gyfer y gwaith.