Ar-lein, Mae'n arbed amser
Troi goleuadau Treharris ymlaen yn llwyddiant ysgubol
- Categorïau : Press Release
- 07 Rhag 2022

Heidiodd preswylwyr ac ymwelwyr i ganol tref Treharris i weld y goleuadau Nadolig yn cael eu troi ymlaen am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Daeth bwrlwm i Sgwâr Treharris yn y Ffair Nadolig blynyddol gyda pherfformiadau gan y band Gwyddelig acwstig lleol Fiddler’s Elbow, gydag amrywiaeth o stondinau anrhegion, bwyd a diod gan fusnesau a grwpiau lleol.
Trowyd y golau ymlaen gan y Maer y Cyng. Declan Sammon a Siôn Corn - sef y Cyng. Gareth Richards - yng Nghanolfan Gymunedol Treharris roedd Groto Siôn Corn a chanu carolau dan arweiniad Côr Ysgol Gynradd Edwardsville.
Diolch i bawb am gefnogi ein digwyddiad!