Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Ysgol Gynradd Troed-y-Rhiw yn Ysgol Aur o ran Ymgysylltu â’r Gymuned diolch i’w phrosiect ‘Y Stryd Fawr’

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Mai 2023
Gold award

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Troed-y-Rhiw’n falch i lansio ei siop Carwyd Ynghynt, Bron yn Newydd,  y cyntaf o ddau gynhwysydd llongau i’w agor ar Stryd Fawr Troed-y-Rhiw.

Cyflwynodd Sue Davies, Cyfarwyddwr y Sefydliad ar gyfer Ymgysylltu â’r Gymuned, yr ysgol gyda nid un ond dwy wobr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf diolch i’w gwaith ysbrydoledig yn y gymuned; yn y lle cyntaf cawsant Wobr Arian a nawr cyflwynir y Wobr Aur am Ymgysylltu â’r Gymuned.

Mae Carwyd Ynghynt, Bron yn Newydd yn cynnig dillad ail-law o safon dda a gwisg ysgol i’r gymuned leol drwy wasanaeth ‘talwch hynny a allwch’, sy’n golygu bod teuluoedd yn rhoi eitemau nad sydd arnynt eu hangen bellach ac yn talu hynny a allant amdanynt. Amrediad oedran y dillad sydd ar gael yw newydd-anedig hyd 16 mlwydd oed. Mae’r safon yn amrywio, ceir rhai eitemau newydd sbon a'r label yn dal i fod arnynt.

Bydd yr ail gynhwysydd yn bantri bwyd o’r enw Bocs Bwyd Mawr a bydd yn agor yn ystod y misoedd nesaf. Drwy weithio mewn partneriaeth â FareShere Cymru, byddant yn darparu bwyd i’r gymuned leol am bris isel, fforddiadwy neu’n rhad ac am ddim.

Sefydlwyd FareShare Cymru yn 2010 a dechreuodd ddosbarthu bwyd yng Ngorffennaf 2011. Wrth ddefnyddio bwyd sydd dros ben, o safon, o fewn dyddiad a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu, maent yn troi problem amgylcheddol mewn i ateb cymdeithasol, gyda’r bwriad o frwydro yn erbyn gwastraff bwyd a newynu.

Meddai Rebecca Evans, Dirprwy Bennaeth ac awreinydd y prosiect Ymgysylltu â’r Gymuned; “Mae’r Stryd Fawr yn brosiect mor bwysig i ni. Rydym yn gwybod y bydd y ddwy siop gymunedol o fewn y cynwysyddion hyn yn cefnogi ein teuluoedd ar adeg pan fod pethau’n heriol iawn a chostau byw’n afreolus.

Hoffem wneud ein gorau i sicrhau bod gan ein plant ddillad a bwyd heb achosi cynnydd mewn costau i’r teuluoedd. Yn ogystal â chefnogi’r gymuned yn ariannol, mae hwn hefyd yn brosiect sy’n ymwneud â chynaladwyedd, oherwydd byddwn yn atal dillad rhag mynd yn wastraff ac mae’r pantri bwyd yn atal bwyd dieisiau rhag mynd at gladdfa sbwriel.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni