Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hwb hyfforddiant a thai unigryw yn cael ei agor gan y Gweinidog

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Maw 2023
Compass Centre opening day

Mae canolfan hyfforddiant a phreswyl unigryw wedi cael ei agor heddiw (Mawrth 22, 2023) ym Merthyr Tudful, gan Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan AS.

Mae Hwb Cymuned Cwmpawd a Fflatiau Pen y Dre yn y Gurnos, sef yr hen Ganolfan Ddysgu’r Gymdogaeth, wedi ei ail ddatblygu gyda £1.4m o gyllid gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol a phartneriaid eraill.

Yn wreiddiol yn fflatiau preswyl, mae’r ganolfan ers chwarter canrif yn ganolfan addysgol i helpu pobl ifanc di waith i ennill sgiliau ar gyfer gwaith. Bydd yn parhau i gynnig hyfforddiant a chyfleusterau cyflogadwyedd, gydag un o’r adeiladau wedi ei droi yn bump fflat hunan cynhaliol Ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-24 oed sydd mewn peryg o ddigartrefedd.

Yfory (Mawrth 23), mae’r hwb yn cynnal diwrnod agored ble bydd preswylwyr lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdai am yr hyfforddiant sydd ar gael a’r gweithgareddau eraill sydd ar gael bob dydd. Mae'r rhain yn cynnwys TG a sgiliau digidol, gwaith coed, hyfforddiant man werthu a gwasanaethau cwsmer, gwneud gemwaith, gweithgareddau crefft, trin gwallt a harddwch a lles a meddylgarwch.

Mae’r project wedi cael ei gefnogi gan £1,129,174 oddi wrth Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg-  a gyllidir gan Lywodraeth Cymru - fel rhan o  Brif Raglen Gyfalaf Gofal Integredig, sydd wedi adnabod gweithio gyda phobl ifanc a phlant mewn gofal fel prif flaenoriaeth.

Daeth £260,000 ychwanegol o Raglen buddsoddiad project Cyfalaf y Cyngor a £129,115 a ddyfarnwyd gan Gronfa Gofal Tai Llywodraeth Cymru i alluogi'r project i gael ei gwblhau yn 2022.

Dwedodd y Dirprwy Weinidog: “Rydw i wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyllido'r project blaengar hwn. Bydd yn diogelu pobl ifanc yn yr ardal rhag digartrefedd trwy ddarparu cartref o safon dda a chyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd.

“Mae hefyd yn enghraifft ragorol o waith partneriaeth yn gweithredu ym Merthyr Tudful. Bydd yn ased gwerthfawr i’r gymuned am flynyddoedd.”

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas at ‘yr heriau sylweddol yn y niferoedd gydag anghenion cymhleth o fewn y Fwrdeistref Sirol, yr angen sylweddol i ddarparu cartref a chymorth i bobl fyw yn annibynnol ac i ffynnu’.

Dwedodd: “Bydd yr elfen dai o’r cynllun yn helpu pobl o risg o ddigartrefedd gyda chartref o safon, gwasanaethau hyfforddiant a chyflogadwyedd a chefnogaeth trwy bartneriaid a gweithwyr o’r Hwb Cymunedol.

“Mae ymwybyddiaeth gref o gymuned o fewn Merthyr Tudful, ac mae adfer adeiladau gwag i gartrefi o safon yn mynd i helpu Pontio Ailgartrefu Brys at y dyfodol,”ychwanegodd.

“Bydd Hwb Cymunedol Cwmpawd yn rhan ganolog o’r gymuned a’r fwrdeistref gyfan, gyda’r bwriad o annog dysgu ac ennill sgiliau newydd, gwella lles a hyrwyddo cynhwysiant tai cymdeithasol.”

Dwedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Cwm Taf Morgannwg: “Mae’r project unigryw hwn mor gyffrous. Mae’n galluogi pobl i fyw mewn cartrefi cynnes, diogel ble gallant deimlo bod yn rhan o gymuned, ond gyda’r gefnogaeth sydd angen arnynt yn y lle ar adeg iawn.

“Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau a dysgu a darganfod talentau newydd ble maent yn byw. Mae mynediad at gyrsiau galwedigaethol gwych yn mynd i helpu datblygu eu lles ac o bosib arwain at waith yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld sut byddant yn elwa o’r project yn y blynyddoedd sydd i ddod.”

Dwedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Tai Cymoedd Merthyr Stacy Thomas: “Mae’r project hwn wedi bod yn bartneriaeth dda gyda’n partneriaid yn yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.

“ Lleolir Fflatiau Pen Y Dre o fewn cymuned gyda synnwyr o berthyn a pharch cryf. Mae darparu’r cartrefi diogel hwn ar gyfer pobl ifanc i gychwyn eu bywyd fel oedolion yn rhywbeth rydym ni’n falch iawn i fod yn rhan ohono.

“Mae darparu’r cartrefi newydd hyn yn fwy na chynyddu’r rhifau- mae am ddarparu'r math cywir o dai yn yr ardal gywir am y rhesymau cywir. Mae cymorth cofleidiol yr hwb cymunedol a’r gymuned leol yn darparu cyfleodd i’r bobl ifanc i ffynnu.” 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni