Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y newyddion diweddaraf am Ganolfan Gymunedol Aberfan a Merthyr Vale

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Ebr 2024
Aberfan Update - ENGLISH

Yn dilyn y datganiad a gyhoeddwyd gan y Cyngor ddydd Mercher diwethaf, Ebrill 24ain, ymatebodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful i'n ceisiadau i gwrdd i drafod dyfodol gwasanaethau yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan a Merthyr Vale.

Mae'r Cyngor nawr yn aros am gopi terfynol, wedi'i lofnodi o'r cytundeb rheoli i'w anfon atom i'n galluogi i agor yr adeilad yn ddiogel ac yn gyfreithlon. Mae'n debyg mai bore yfory fydd hyn, felly yn anffodus bydd hyn yn golygu oedi cyn agor yfory, dydd Mercher Mai 1af 2024.

Byddwn yn darparu diweddariad cyn gynted ag y bydd gennym un.

Mae wedi bod yn fisoedd heriol ac rydym yn falch iawn o fod yn agosach at ddatrysiad i'r staff, defnyddwyr gwasanaeth y ganolfan a chymuned Aberfan.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni