Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y diweddaraf am bwll nofio Canolfan Hamdden Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 24 Meh 2021
Wellbeing@Merthyr

Bu pwll nofio Canolfan Hamdden Merthyr Tudful ar gau ers Rhagfyr 2019 yn sgil dŵr yn gollwng ac yn amharu ar y concrid a pheri i’r teils ddod yn rhydd.

Fel perchennog yr adeilad, yn gynnar yn 2020, comisiynodd y Cyngor Bwrdeistref Sirol nifer o arolygon i geisio dod i wraidd y broblem. Ar ôl dweud wrthym ba waith oedd angen ei wneud, hysbysodd Lles@Merthyr (Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful) - sy’n prydlesu’r ganolfan o’r Cyngor - y Cyngor o’i gynlluniau i ailddatblygu’r ganolfan hamdden gyfan, o bosibl, gan gynnwys y pyllau.

Yn y cyfamser, amharwyd yn fawr ar y gwaith yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, gan fod prinder twls ac offer. Hefyd, roedd problemau strwythurol pellach, nad oedd wedi eu canfod yn flaenorol ar fin cael eu darganfod yn y pyllau, ac roedd yn ofynnol gwneud llawer mwy o waith archwilio nag a feddyliwyd yn wreiddiol.

I ddechrau, dim ond teils llawr y prif bwll oedd i’w tynnu ymaith, ond yna tynnwyd yr holl deils o bob pwll a’r ardaloedd amgylchynol. Defnyddiwyd ‘sychwyr’ diwydiannol, gan fod yr is-sylfaeni concrid yn ddirlawn wlyb, ac roedden nhw wrthi am dri i bedwar mis – mae’r gwaith hwnnw wedi gorffen bellach. Mae angen penderfynu o hyd i ba lefel fydd yr ailwampio’n cael ei gyflawni.

Mae’r Cyngor a Lles@Merthyr yn cydweithio gyda datblygwr cyfleusterau hamdden proffesiynol i ganolbwyntio’n bennaf ar ailgynllunio’r ardal ochr wlyb. Byddwn yn cwrdd heddiw, a chyn gynted ag y bo’r cynlluniau hynny wedi eu cwblhau, byddan nhw ar gael ar gyfer ymgynghoriad.

Dywedodd Prif Weithredwr Lles@Merthyr, Jane Sellwood: “Tra bo’r pwll ar gau, rydym yn annog preswylwyr i ddefnyddio pwll Canolfan Gymunedol Aberfan ac Ynysowen, ble’r ydym wedi croesawu’r canlynol yn ôl: Clwb Nofio Merthyr, Clwb Tri Merthyr, a gwersi nofio unigol a grŵp, yn ogystal ag Aerobig Aqua a sesiynau Plantos Aqua.  

“Ar 31 Mai lansiwyd menter Nofio Am Ddim i bawb iau nag 16 oed, gyda Heini Merthyr. Gwelwyd dros 300 o bobl ifanc yn defnyddio’r pwll drwy gydol y cynllun ers hynny. Byddwn yn lansio menter debyg i bobl dros 60 oed cyn bo hir.

“Er ein bod yn deall pa mor siomedig yw hi fod pwll y Ganolfan Hamdden ar gau dros y cyfnod estynedig hwn, ein dymuniad pennaf yw ei ailagor mewn cyflwr sy’n ddiogel ac yn hygyrch i bawb.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Mytton: “Gwyddom pa mor rhwystredig mae preswylwyr Merthyr Tudful yn teimlo am fethu â defnyddio’r pwll am gyfnod mor hir. Ond bu’n broblem hynod o gymhleth ac mae’r Cyngor a Lles@Merthyr wedi treulio llawer o amser ac ymdrech yn ceisio ei ddatrys.

“Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda ni, achos rydym yn gwneud ein gorau i agor y pyllau eto cyn gynted ag y gallwn.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni