Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cau Stryd Fictoria dros dro ar gyfer gwaith ar y groesfan sebra
- Categorïau : Press Release
- 20 Ion 2022

Bydd Stryd Fictoria yng nghanol y dref ar gau dros dro'r wythnos nesaf wrth i waith ar drosi'r groesfan yn groesfan sebra gael ei gynnal.
Bydd gorchmyn cau yn weithredol ar gyffordd Stryd a Castell a Lȏn yr Ysgub Wenith o 8am ddydd Mercher Ionawr 26 tan 11.30pm ddydd Gwener Ionawr 28.
Ni fydd mynediad i gerbydau ac eithrio tacsis a chyflenwyr busnesau, a fydd yn gallu cael mynediad a gadael Stryd Fictoria trwy Stryd y Castell. Bydd system rheoli traffig yn weithredol ar gyffordd Stryd y Castell/ Lȏn yr Ysgub Wenith rhwng 7am a 5pm, gyda’r ffordd ar gau i bob cerbyd tu allan i’r oriau hyn.
Mae project y groesfan sebra yn un o gyfres o welliannau cerdded a seiclo a gynhelir gan y Cyngor fel rhan o raglen Teithio Lleso a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder am y gwaith, cysylltwch â’n Swyddog Cyswllt y Cyhoedd, Georgie Davies rhwng 8a,a 5pm Llun-Gwener trwy ffonio
0330 0412 183. Neu gallwch e-bostio Georgie ar georgie.davies@alungriffiths.co.uk
Neu gallwch e-bostio teithio llesol ar Active.Travel@merthyr.gov.uk
Diolch am eich amynedd a chydweithrediad tra bo’r gwaith yn digwydd.