Ar-lein, Mae'n arbed amser
Fideo yn dangos sut gall bywyd wella i’r digartref
- Categorïau : Press Release
- 18 Tach 2022

Mae’r Cyngor wedi cynhyrchu fideo yn dangos sut mae bywydau pobl leol digartref wedi gwella yn dilyn y gefnogaeth dai a dderbyniwyd yn ystod y pandemig.
Roedd newidiadau a wnaed i’r Ddeddf Dai Argyfwng wedi gosod dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu llety dros dro i bawb a oedd yn cysgu ar y stryd neu heb le parhaol i fyw.
Dwedodd eiriolwr Digartrefedd Merthyr Tudful y Cynghorydd Claire Jones: “Ar ddechrau’r pandemig Covid 19,cyflwynodd Llywodraeth Cymru neges syml: ‘pawb mewn, neb allan’.
“Mae’r Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad ers hynny i wneud y newidiadau hyn yn rhai parhaol,” ychwanegodd. “Mae ein fideo yn dweud sut y newidiodd y dull ‘pawb mewn , neb allan’ fywydau dau berson di gartref a oedd yn cysgu ar y stryd.”
Gallwch weld y fide oar y ddolen hon: Sut y gall bywyd wella i’r digartref
• Os ydych yn profi -neu yn wynebu - digartrefedd ac eisiau mwy o gyngor, cysylltwch gyda Thîm Datrysiadau Tai'r Cyngor ar 01685 725000 rhwng 8.30am-10am neu 2.30pm-4.30pm dydd Llun i ddydd Gwener. E-bost housing@merthyr.gov.uk