Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwirfoddolwyr yn clirio dros 12 tunnell o leoliad prydferth, lleol
- Categorïau : Press Release
- 19 Tach 2021
Ym mis Hydref, bu 14 o wirfoddolwyr yn gweithio’n galed drwy’r penwythnos er mwyn clirio tipio anghyfreithlon o un o leoliadau hardd Merthyr.
Denodd y digwyddiad, a drefnwyd gan Daniel Lewis, Prentis Gwasanaethau Cymdogol CBSMT bobl o bob cwr, a daeth un ohonynt, bob cam o Wolverhampton i helpu.
Mewn pedair awr yn unig ar fore Sadwrn, cafodd dros 4 tunnell o wastraff ei glirio o Heol Bogey a chliriwyd 8 tunnell arall o Heol Dowlais yn ystod y prynhawn Sadwrn a’r Dydd Sul. Llanwyd 6 sgip a ddarparwyd gan y Cyngor. Roedd y gwastraff a gasglwyd yn cynnwys gwastraff adeiladu, gwastraff domestig ac asbestos.
Dywedodd Daniel: “Ein cyfrifoldeb ni, fel preswylwyr Merthyr yw sicrhau fod ein gwastraff yn cael ei ddyddodi’n gywir. Mae dwy ganolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu ym Merthyr Tudful sydd yn derbyn ac sydd yn ailgylchu’r mwyafrif o wastraff AM DDIM. Mae hefyd nifer o gludwyr gwastraff cofrestredig all ddyddodi mathau eraill o wastraff yn gywir.
“Does DIM ESGUS dros dipio anghyfreithlon a sbwriela. Mae’n gadael craith ar ein mannau prydferth ac yn berygl i’n hamgylchedd ac i’n bywyd gwyllt lleol.”
“Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth lawn ein Prif Weithredwr, Ellis Cooper, Adran Gwasanaethau Cymdogol CBSMT a’r holl wirfoddolwyr. Rwy’n falch i fod wedi gweithio gyda nhw.”
Cafodd yr holl wastraff a gasglwyd ei didoli a lle’n bosib, ei ailgylchu.
Diolch yn fawr i holl aelodau Wild Campers Against Waste, Clwb Barcuta a Pharagleidio De Ddwyrain Cymru, Grŵp Gweithredu Jess Flag, Cymdeithas Cymunwyr Merthyr a Gelligaer ac i bawb arall a ddaeth allan i’n cynorthwyo.