Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwirfoddolwyr o Ferthyr Tudful a thu hwnt yn casglu 384 o fagiau o sbwriel o Daith Taf i gefnogi #SpringCleanCymru

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Ebr 2025
clean up group

Casglwyd swm anhygoel o384 o fagiau sbwriel mewn atyniad poblogaidd ym Merthyr, Ddydd Gwener 4 Ebrill, wrth i 172 o wirfoddolwyr gynnal casgliad ar ran o Daith Taf i baratoi ar gyfer gwyliau'r Pasg a dechrau'r tymor twristiaeth.

Cyfunodd aelodau o'r cyhoedd, cynghorwyr lleol, grwpiau cymunedol, plant ysgol lleol a staff a gwirfoddolwyr o Gadwch Gymru'n Daclus a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gasglu sbwriel ar hyd darn 13 milltir/21km Merthyr o Daith Taf, gyda 10 ardal lanhau wahanol o Bontistill i Abercynon.

Derbyniodd y gwirfoddolwyr gyfarparu casglu sbwriel, bagiau a chylchoedd a festiau fflwroleuol, wrth iddynt lanhau'r prif lwybrau a'r ardaloedd cyfagos o'r llwybr fel rhan o ymgyrch flynyddol Gwanwyn Glân Cymru, Cadwch Gymru'n Daclus sy'n annog pobl ledled Cymru i helpu i lanhau'r sbwriel sy'n difetha cymunedau lleol a mannau harddwch.

Roedd y 384 bag a lenwyd yn cynnwys 190 o fagiau coch o sbwriel a 194 bag glas o ganiau a phlastigau i'w hailgylchu.

Canmolodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd y Cyngor, y gwirfoddolwyr am eu hymdrechion anhygoel, meddai;
"Rwyf am ddiolch yn bersonol i bob un o'r 172 o wirfoddolwyr a ymunodd â ni ar gyfer y digwyddiad glanhau hwn.

"Mae'n wych gwybod bod gennym gymaint o unigolion caredig, o bob oedran ac o bob poced o'n bwrdeistref sirol, sydd am  ofalu am ble maen nhw'n byw ac eisiau gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol."

Mae Taith Taf yn atyniad poblogaidd yn Ne Cymru, sy'n rhedeg ar hyd Afon Taf am 55 milltir/88.5km rhwng Caerdydd ac Aberhonddu ar hyd cymysgedd o lwybrau glan yr afon, llwybrau rheilffordd a ffyrdd coedwig. Yn rhan o rwydwaith beicio cenedlaethol Sustrans, mae'n cael ei defnyddio'n helaeth gan feicwyr, cerddwyr a rhedwy sydd am fanteisio ar ei  llwybrau oddi ar y ffordd, heb geir.

Fodd bynnag, fel y dengys graddfa'r glanhau hwn, gall sbwriel fod yn broblem wirioneddol, gyda poteli plastig, lapwyr bwyd a bonion sigaréts ymhlith yr eitemau mwyaf cyffredin a gasglwyd heddiw. Dynododd y  gwirfoddolwyr hefyd eitemau fel dodrefn a throlïau siopa wedi tipio anghyfreithlon i’w casglu o'r man harddwch.

Canmolodd Mark Davies, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus ym Merthyr, y gymuned leol am ei hymrwymiad i wneud y fath wahaniaeth. Dywedodd;
"Mae Taith  Taf yn bwysig iawn i dwristiaeth ym Merthyr. Mae'n dod â llawer o bobl yma i gerdded, rhedeg neu feicio, felly rydym wrth ein bodd bod cymaint o wirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd i ofalu am yr ardal.

"Mae digwyddiadau mawr fel hwn yn gwneud i bobl siarad - gall faint o sbwriel a'r heriau wrth lanhau fod yn agoriad llygad.  Mae llawer o'r rhai sy'n cymryd rhan am y tro cyntaf yn awyddus i wirfoddoli ymhellach  a hyd yn oed sefydlu grwpiau gweithredu cymunedol newydd, sy'n beth positif iawn i Merthyr."

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni