Ar-lein, Mae'n arbed amser

Angen gwirfoddolwyr i helpu i gadw lloches nos y gaeaf ar agor

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Tach 2019
Winter night shelter 2019

Mae diwrnod agored am gael ei gynnal gyda’r nod o recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i redeg lloches nos y gaeaf Merthyr Tudful am y 10fed blwyddyn o’r bron.

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn cydredeg y digwyddiad gyda’i gwirfoddolwyr hirdymor ddydd Iau 28 Tachwedd i geisio sicrhau fod yna ddigon o bobl i gadw’r lloches ar agor yn ystod tywydd oeraf y gaeaf.

Caiff y lloches ei staffio gan wirfoddolwyr ac aelodau o sefydliadau ffydd a chaiff ei ddyddiad dechrau ei bennu’n bennaf gan yr anhawster sydd yna o recriwtio gwirfoddolwyr dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Bydd lloches 2020 yn ailagor ddydd Gwener 3 Ionawr a bydd ar agor tan ganol mis Mawrth.

“Heb ein gwirfoddolwyr, ni fyddai gennym loches nos y gaeaf,” dywedodd Rheolwr Tai a Chefnogi Pobl y Cyngor, Suzanne Lewis-Abbott. “Nod y diwrnod agored yw dangos gwagle’r lloches i wirfoddolwyr posibl gan esbonio’r drefn o ddydd i ddydd a’u hysbysu am y gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd ar gael.”

Mae’r lloches ar lefel uchaf yr orsaf fysiau ac yn y sesiwn galw heibio bydd y canlynol yn bresennol: swyddogion tai, cydlynwyr gwirfoddoli, swyddogion cefnogi a staff hyfforddi, yn ogystal â gwirfoddolwyr a phartneriaid gan gynnwys yr heddlu.

Ar gyfer pob dydd y bydd y lloches ar agor bydd angen 9 neu 10 gwirfoddolwr i weithio dros dair shifft: 6-10pm, 10pm-6am a 6-8am. Mae’r grŵp gwirfoddoli yn gweini bwyd twym wedi ei baratoi’n barod a diodydd gyda’r nos a brecwast drwy Gaffi’r Orsaf Fysiau. Cefnogir hyn gan arian grant oddi wrth Dai Cymoedd Merthyr.

Caiff mynediad ei ddarparu i’r sawl sy’n adnabyddus am gysgu ar y stryd ar ôl trafodaeth gyda’r gwirfoddolwyr a Thîm Atebion Tai yr awdurdod. Caiff gwiriadau cefndir eu cyflawni i liniaru unrhyw risgiau i’r gwirfoddolwyr a’r preswylwyr eraill yn y lloches.

• Gallwch alw heibio’r lloches unrhyw bryd rhwng 11.30am a 6.30pm ddydd Iau 28 Tachwedd (mae mynediad drwy ddrws i’r chwith o’r Orsaf Fysiau) Am wybodaeth bellach, cysylltwch â thîm atebion tai y Cyngor ar 01865 725000, e-bost housing@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni