Ar-lein, Mae'n arbed amser
Eisiau gyrfa mewn lletygarwch? Ewch amdani yn the Mine!
- Categorïau : Press Release
- 03 Tach 2022

Mae preswylwyr Merthyr Tudful a thu hwnt sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn lletygarwch yn cael y cyfle i wybod pa swyddi sydd ar gael yn un o dai bwyta mwyaf newydd a phoblogaidd y dref.
Mae The Mine at CF47 & Castelany's Fine Dining, a agorodd bron i flwyddyn yn ôl yn fwyty Eidalaidd-Gymreig ar thema pwll glo, bar tapas, bar gwin a lleoliad cerddoriaeth byw yng nghanol tref Merthyr Tudful.
Mae’r bwyty yn chwilio am fwy o staff i weini ac mae tîm Cyflogaeth y Cyngor yn cefnogi trwy gynnal diwrnod recriwtio yng Ngholeg Merthyr Tudful, ddydd Mercher nesaf, Tachwedd 9, 2022.
Mae amrywiaeth o swyddi ar gael yn The Mine, yn cynnwys bwcio byrddau, croesawu gwesteion a chymryd archebion.
Rhwng 1-3.30pm yn Atriwm y Coleg bydd cynrychiolwyr The Mine yn amlinellu'r cyfleoedd ac yn annog pobl i fanteisio ar y cyfle gwaith gwych lleol mewn diwydiant llewyrchus.
Mae’r bwyty yn eiddo i’r Rheolwr Gyfarwyddwr Stuart James a’r Prif Gogydd sydd wedi ennill gwobrau, Marius Castelany, athro coginio cymwysedig a gwblhaodd ei ysgoloriaeth goginio gyda Antonio Carluccio, y ‘brenin coginio Eidalaidd’.
Mae The Mine at CF47 yn un o’r busnesau i elwa o gynllun Cyfamser y Cyngor, sy’n cefnogi mentrau newydd i agor mewn adeiladau gwag yng nghanol y dref.
Cyn adeilad Llys Bowen yw'r 12fed adeilad i gael ei ailddatblygu fel rhan o Raglen Treftadaeth Pontmorlais y Cyngor ers iddo gael ei lansio yn 2011.