Ar-lein, Mae'n arbed amser
RHYBUDD: GALLAI DOLIAU LABUBU FFUG ROI PLANT MEWN PERYGL
- Categorïau : Press Release
- 01 Awst 2025

Mae Safonau Masnach Merthyr Tudful yn annog rhieni a gofalwyr i fod yn wyliadwrus o ddoliau Labubu ffug yn cael eu gwerthu ar-lein ac mewn siopau lleol.
Perygl y doliau ffug hyn yw:
- Diffyg profion diogelwch
- Cynnwys rhannau bach (perygl tagu)
- Defnyddio cemegau wedi'u gwahardd
- Cynnwys electroneg anniogel
Cyngor Diogelwch:
- Prynu gan fanwerthwyr dibynadwy
- Chwilio am farciau CE/UKCA
- Bod yn wyliadwrus o brisiau “rhy dda i fod yn wir”
- Gwirio pecynnu am wybodaeth ddiogelwch
Rhoi gwybod am werthwyr amheus i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth:
📞 0808 223 1133
🌐 www.citizensadvice.org.uk/consumer