Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhybudd yn erbyn ailgylchu canisterau nwy a batris gliniaduron
- Categorïau : Press Release
- 03 Medi 2021

Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cael eu rhybuddio i beidio â rhoi unrhyw ganisterau nwy, fel y rheini a ddefnyddir wrth wersylla, yn eu bagiau ailgylchu nac mewn biniau olwyn ar gyfer casgliadau wrth ymyl y ffordd.
Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, cafwyd sawl bang yn y Depo Gwastraff ac Ailgylchu ym Mhentre-bach oherwydd bod caniau nwy yn ffrwydro wrth gael eu cywasgu ochr yn ochr â deunyddiau eraill.
Gyda’r tywydd poeth a gawson ni’n ddiweddar, mae mwy a mwy ohonon ni’n bwyta yn yr awyr agored ac yn defnyddio poptai nwy cludadwy sy’n gyffredin wrth wersylla a charafanio. Yn anffodus, nid yw’r canisterau nwy a ddefnyddir yn y poptai hyn, yn addas i’w hailgylchu wrth ymyl y ffordd.
Ar ôl i’r plastigau a’r metelau gael eu casglu gan y criwiau, cânt eu gwahanu a’u cywasgu’n fwndeli yn y Depo cyn eu prosesu ymhellach. Mae’r canisterau nwy coginio yn cynnwys olion propan neu bwtan, sy’n golygu ei fod yn hynod beryglus eu cywasgu â deunyddiau fflamadwy.
Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, yr Aelod â Phortffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdogol: “Er diogelwch ein criwiau a’r staff yn yr iard a'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC), rydyn ni’n apelio ar yr holl breswylwyr i wneud yn siŵr eu bod yn cael gwared ar y canisterau hyn mewn modd diogel a chyfrifol. Dylid mynd â nhw i’r Canolfannau HWRC naill ai yn Nowlais neu Aber-fan ac, unwaith y byddant ar y safle, dylai preswylwyr ofyn am gyngor gan y staff ynghylch pa gynhwysydd y dylid eu rhoi ynddo.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes: “Rydyn ni hefyd wedi cael problemau gyda phobl yn rhoi batris gliniaduron allan i’w hailgylchu wrth ymyl y palmant, a hoffwn i fachu ar y cyfle hwn i hysbysu preswylwyr y dylent fynd â’r rhain hefyd i’w Canolfan HWRC lleol i gael eu hailgylchu’n ddiogel.”
Cofiwch, fe ELLIR ailgylchu caniau aerosol gwag o’r cartref, fel caniau diaroglydd a ffresnydd aer, drwy eu rhoi yn y sach ailgylchu glas gyda phlastigau a metelau wrth ymyl y palmant. A all preswylwyr sicrhau eu bod yn gwagio’r caniau aerosol cyn eu rhoi yn y sach las er mwyn atal unrhyw fang pellach rhag digwydd.
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu ym Merthyr Tudful, ewch i www.merthyr.gov.uk