Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae angen eich help i wella ailgylchu mewn digwyddiadau dan do ac awyr agored...

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Awst 2026
Screenshot 2026-08-14 131216

Daeth Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, a elwir hefyd yn Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, i rym ym mis Ebrill 2024, ac maen nhw’n golygu bod yn rhaid i bob busnes a sefydliad, gan gynnwys digwyddiadau dan do ac awyr agored, wahanu eu gwastraff i’w ailgylchu.  Pwrpas y gyfraith newydd hon yw ailgylchu mwy o ddeunyddiau a gwella ansawdd ailgylchu yng Nghymru.

Mae'r gyfraith newydd yn berthnasol i bob digwyddiad dan do ac awyr agored, sy'n golygu bod yn rhaid i ddigwyddiadau wahanu gwastraff sy’n debyg i wastraff y cartref i’w gasglu.  Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i gasglwyr gasglu'r deunyddiau hyn ar wahân a sicrhau na cheir unrhyw gymysgu wedi hynny.  Ni chaniateir i gasglwr gwastraff wahanu'r gwastraff ar ran y digwyddiadau ar ôl ei gasglu.  Byddai hyn yn drosedd. Mae’r Cod Ymarfer a’r canllawiau y ceir dolenni iddynt isod yn esbonio pa fathau o wastraff y mae angen eu gwahanu,

Mae'r gyfraith yn berthnasol i bob digwyddiad, waeth beth fo maint neu hyd y digwyddiad, nifer yr ymwelwyr ac ati, ac mae'n berthnasol os yw’r digwyddiad neu'r ŵyl yn cael ei ch/gynnal ar fan agored cyhoeddus fel parc, marchnad, priffordd (lle caniatawyd cau ffyrdd) neu ar dir preifat.

Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer digwyddiadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle

Mae gan Lywodraeth Cymru God Ymarfer  statudol sy'n egluro’r rhwymedigaethau cyfreithiol a sut i fodloni gofynion y gyfraith.

Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân i’w Hailgylchu: Cod Ymarfer Cymru | LLYW.CYMRU

Mae gwefan Y Busnes o Ailgylchu WRAP Cymru yn cynnwys canllawiau ac adnoddau i sectorau penodol, gan gynnwys ar gyfer digwyddiadau. 

Busnes Ailgylchu Cymru - Canllawiau ar gyfer digwyddiadau

Ailgylchu yn y Gweithle - Adnoddau

Dolen i'r holl adnoddau sydd ar gael ar gyfer pob gweithle, gan gynnwys digwyddiadau:

 

Os oes angen help arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru yn ailgylchuynygweithle@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni