Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rydym yn sefyll gyda’r Wcráin – datganiad gan yr Arweinydd y Cyng Lisa Mytton

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Maw 2022
Ukraine flag

“Rydym yn unedig gydag ymateb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i oresgyniad  Wcráin gan Rwsia ac yn condemnio arweinydd Rwsia am ei ymosodiad. Anogaf bawb yn y Siambr a’r Fwrdeistref Sirol i ddangos eu cefnogaeth.

“Mae’r sefyllfa yn Wcráin yn newid yn gyflym ac mae llawer o sgyrsiau yn digwydd am sut i gynnig cymorth a noddfa i’r bobl sydd wedi eu disodli gan y rhyfel yno. Mae tua 700,000 o bobl wedi ffoi Wcráin ac amcangyfrif y gall 5 miliwn o bobl adael os bydd yr ymladd yn parhau am amser. 

“Tra bod ffoaduriaid yn cyrraedd gwledydd cyfagos, credir y bydd llawer yn symud ymlaen i wledydd eraill, gyda llawer yn ceisio ymuno ag aelodau o’r teulu sydd wedi setlo mewn gwledydd eraill.

“Felly, rydw i yn rhan o 22 o Arweinwyr sydd wedi addo cefnogi unrhyw un sy’n ceisio lloches o’r Wcráin ac mae’r prosesau, gweithdrefnau a threfniadau yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

“Rhaid cofio taw Arweinydd Rwsia sydd wedi achosi hyn nid poblogaeth Rwsia, a rhaid i ni gefnogi ein cymunedau i leihau unrhyw densiynau cymunedol.

“Mи стоїмо разом з Україною  - safwn gyda Wcráin.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni