Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rydym eisiau eich help i enwi cerbydau ailgylchu newydd y Cyngor!

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Rhag 2022
Vehicle Comp

Rydym eisiau eich help i enwi cerbydau ailgylchu newydd y Cyngor! Clywsom am Gyngor arall yn rhoi cyfle i breswylwyr enwi'r fflyd graeanu, gydag enwau dychmygus fel; David Plowie, Gritty Gritty Bang Bang, Walter The Salter and Spreaddie Mercury, i enwi dim ond rhai o’r awgrymiadau. Felly, dyma fanteisio ar y cyfle i gael ychydig bach o hwyl!

Mae’r gystadleuaeth ar agor i breswylwyr Merthyr Tudful o bob oed, a’r dyddiad cau yw dydd Mawrth Ionawr 31ain  2023. Bydd yr enwau buddugol yn cael eu harddangos uwchben caban pob cerbyd a bydd taleb Amazon gwerth £50 i  bob enillydd. Danfonwch eich awgrymiadau am enwau at: Name our new Recycling vehicles (smartsurvey.co.uk)  neu ffoniwch 01685 725000 gydag awgrymiadau.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni