Ar-lein, Mae'n arbed amser
Canolfan Ddiwylliannol Iddewig Cymru yn cael sêl bendith
- Categorïau : Press Release
- 14 Awst 2026
Mae adfer un o safleoedd treftadaeth Iddewig pwysicaf Cymru gam yn nes at ddod yn realiti, diolch i grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Bydd y prosiect gwerth £6m yn gweld Synagog Merthyr Tudful yn cael ei thrawsnewid yn Ganolfan Ddiwylliannol Iddewig Cymru, gan ddathlu hanes cymunedau Iddewig yng Nghymru a rhoi cyfle i bobl ddysgu am effaith y gymuned drwy raglen weithgareddau a digwyddiadau cyffrous. Bydd y ganolfan hefyd yn gwella arleisiau ymwelwyr Merthyr Tudful ac yn darparu cyfleusterau diwylliannol mawr eu hangen.
Ar ddydd Gwener Awst 14eg cyfarfu Vikki Howells AS, cynrychiolwyr o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, y Cyngor, a pherchnogion yr adeiladau â theuluoedd sydd â chysylltiadau cryf â'r synagog.
Dywedodd Anna Williams-Price, Hyrwyddwr Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: "Rydym yn falch iawn o weld y prosiect hwn yn symud ymlaen ac yn dysgu am y cynlluniau cyffrous ar gyfer yr adeilad. Mae llawer o dreftadaeth Iddewig Cymru mewn perygl o gael ei golli, felly mae'r prosiect hwn yn bwysig iawn i'n haddysgu am gyfraniad gwerthfawr y gymuned i ddatblygiad diwylliannol, gwleidyddol, academaidd, economaidd a chymdeithasol.
"Roedd yn wych cwrdd â'r teuluoedd heddiw i ddysgu am eu hatgofion o'r adeilad trawiadol hwn a'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw ac ei weld yn dod yn ôl i'w hen ogoniant."
Mae cynlluniau ar gyfer y trawsnewid ar y gweill, ac mae gwaith ffisegol i'r adeilad rhestredig Gradd II yn dechrau yn 2027, gyda dyddiad agor yn Hydref 2028, gobeithio.