Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae myfyrwyr Cymraeg yn ennill profiad gwaith yn CBSMT

  • Categorïau : Press Release , Council , Education , Schools
  • 16 Hyd 2019
DS5

Yn Awst a Medi 2019, daeth dwy fyfyrwraig gradd o Ferthyr Tudful sy’n astudio Daearyddiaeth yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe i dreulio pythefnos o brofiad gwaith yn Uned Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Dyfarnwyd bwrsariaeth oddi wrth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Katie Phillips a Hannah Smith astudio rhan o’u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd yn ofynnol eu bod yn ymgymryd â lleoliad gwaith mewn sefydliad dwyieithog.

Daw Katie a Hannah o Ferthyr Tudful ac mae’r ddwy yn gyn-ddisgyblion i Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ac Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae’r ddwy ar hyn o bryd ym mlwyddyn olaf eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.  

Cafodd Katie a Hannah amrywiaeth helaeth o brofiadau gan gynnwys gweithio yn y Tîm Gwasanaeth Democrataidd, Tîm Technoleg Cyfathrebu Gwybodaeth, Adnoddau Dynol a’r Uned Polisi Iaith Gymraeg. Yn ystod eu cyfnod yn gweithio yn yr Uned Polisi Iaith Gymraeg gwnaeth Katie a Hannah ymgymryd ag amrywiol brosiectau i sicrhau fod y Cyngor yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys cefnogi amrywiol brosiectau peilot Cymraeg ar gyfer staff y Cyngor a chynorthwyo gyda digwyddiadau chwaraeon a ddigwyddodd yn ystod Diwrnod SHWMAE SU’MAE.   

Dywedodd Rheolwr Newid a Pherfformiad CBS Merthyr Tudful: “Mae’r Cyngor wedi elwa’n fawr â’r profiad gwaith a ymgymerwyd gan Katie a Hannah gan iddynt gael y profiad o nifer o rolau ar draws gwahanol wasanaethau sy’n cefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg i’r gymuned. Roedd eu profiad gwaith yn cynnwys prawf ddarllen gwefan y Cyngor gan ddarparu sicrwydd o ran darpariaeth o wasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd. Rydym yn ddiolchgar i’r holl bartneriaid a oedd yn ymwneud â chefnogi’r profiad gwaith a ymgymerwyd gan  Katie a Hannah yn y Cyngor ac edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr pellach yn y dyfodol agos i ddarparu cyfleoedd i unigolion gael y profiad o gyfleoedd gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.” 

Dywedodd Adam Jones, Swyddog Datblygu Byd Gwaith a Chyfranogiad y Coleg:

“Fel Coleg, rydym yn ceisio annog myfyrwyr i gydnabod eu sgiliau dwyieithog wrth geisio am swyddi a manteisio ar gyfleoedd profiad gwaith. Rydym yn hynod ddiolchgar i gyflogwyr fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am eu parodrwydd i gynnig lleoliadau da i fyfyrwyr ddod i gyswllt â’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd proffesiynol.”

Mae Uned Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Siriol Merthyr Tudful yn annog myfyrywr gradd i gysylltu os ydym am dderbyn profiad o weithio yn yr Uned Polisi Iaith Gymraeg.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni