Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dydd Miwsic Cymru’n cael ei ddathlu ledled Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Chw 2024
Welsh Music Day

Roedd ‘Merthyr Forever’ / ‘Merthyr am Byth,’ ein cân a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y Fwrdeistref i’w chlywed ar y cyfryngau cymdeithasol, Ddydd gwener, 9 Chwefror.  

Mi wnaethom ‘ymuno gyda’n gilydd fel un’ ar gyfer Dydd Miwsic Cymru a gafodd ei ddathlu ledled Merthyr Tudful. Gwelwyd nifer o ysgolion Merthyr yn cyfranogi yn y dathliad cenedlaethol a hynny drwy amrywiaeth o weithgareddau.

Dysgodd Ysgol Gynradd Troed y Rhiw gân ‘Hei Mistar Urdd’ yn ogystal â dawnsio a chanu i rai o’i hoff ganeuon. Cafodd plant y Cyfnod Sylfaen hwyl un eu Disgo Cymraeg!

Cynhaliodd Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful gyngerdd gan yr unawdydd Sophie Jones yn ogystal â chynnal disgo distaw. Bu’r ysgol yn cydweithio ag Ysgol Gynradd Dowlais er mwyn ymarfer a gwella eu sgiliau Cymraeg gyda’u Criw Cymraeg.

Ar gampws Ysgol Gynradd Gatholig Y Santes Fair, treuliwyd y diwrnod yn dysgu am ganeuon traddodiadol Cymraeg yn ogystal ag offerynnau traddodiadol. Bu plant y Feithrin yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg gan berfformio ‘Lliwiau’r Enfys’ yn yr ysgol.  

Manteisiodd Gwasanaeth Cerdd Merthyr Tudful ar y cyfle i ddefnyddio ‘Profiadau Cyntaf’ y Cynlluniau Cenedlaethol i ddysgu cerddoriaeth Gymraeg ar y recorder a’r ffidil i ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa ac Ysgol Gatholig Illtyd Sant.

Dathlodd Coleg Merthyr drwy gynnal perfformiad gan yr artist lleol, Edith Crawford.

Mae Dydd Miwsic Cymru yn ddathliad diwylliannol o gerddoriaeth Cymraeg ac yn gyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r iaith, ledled y Fwrdeistref.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Pencampwr yr Iaith Gymraeg; “Mae’r dathliadau hyn yn gyfle gwych i arddangos hyfrydwch cerddoriaeth Gymraeg mewn ysgolion a lleoliadau ac i hyrwyddo’r iaith, ledled Merthyr Tudful. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni