Ar-lein, Mae'n arbed amser

Beth mae’r cynnydd yn y gyfradd Budd-dal Plant yn ei olygu i chi

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Ebr 2024
child benefit

Bydd miliynau o deuluoedd sy’n hawlio Budd-dal Plant yn cael taliadau uwch yn awtomatig o 6 Ebrill 2024 ymlaen, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi cadarnhau.

Bydd teuluoedd ag un plentyn nawr yn cael hyd at £1,331 y flwyddyn - cynnydd blynyddol o £83.20, a hyd at £881 y flwyddyn fesul plentyn ychwanegol - cynnydd blynyddol o £54.60. Nid oes terfyn ar nifer y plant y gall teuluoedd hawlio ar eu cyfer.

Bydd rhieni’n cael £102.40 bob 4 wythnos (£25.60 yr wythnos) ar gyfer y plentyn cyntaf neu’r unig blentyn a £67.80 bob 4 wythnos (£16.95 yr wythnos) ar gyfer pob plentyn ychwanegol.

Nid oes angen i deuluoedd sydd â hawliadau parhaus gysylltu â CThEF, gan y bydd y taliad budd-dal cynyddol yn parhau i gael ei dalu’n uniongyrchol i’w cyfrifon banc. Gall unrhyw un sydd angen diweddaru eu manylion personol, fel newid cyfrif banc neu gyfeiriad, wneud hynny drwy ddefnyddio ap CThEF neu ar-lein ar GOV.UK.

Anogir rhieni sydd â babi newydd-anedig i wneud cais ar-lein cyn gynted â phosibl a gallent gael eu taliad cyntaf mewn cyn lleied â thri diwrnod. Gall hawliadau Budd-dal Plant gael eu hôl-ddyddio am uchafswm o dri mis.

Meddai Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF: "Mae’r cynnydd mewn cyfraddau Budd-dal Plant ar gyfer hawlwyr presennol yn awtomatig ac nid oes angen i deuluoedd gysylltu â ni. Dylai hawlwyr newydd hawlio ar-lein neu drwy ddefnyddio ap CThEF. Chwiliwch am ‘Budd-dal plant’ ar GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth."

Mae CThEF yn atgoffa rhieni sydd eto i fanteisio ar Fudd-dal Plant ei bod yn gyflym ac yn hawdd hawlio ar GOV.UK neu drwy ap CThEF, y gellir ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • gwneud cais ar-lein 
  • ôl-ddyddio hawliadau am hyd at 3 mis
  • ychwanegu babi newydd at hawliad
  • rhoi gwybod i CThEF am newid mewn amgylchiadau 
  • diweddaru manylion h.y. newid cyfeiriad/manylion banc
  • bwrw golwg dros neu argraffu’ch tystiolaeth o hawl i Fudd-dal Plant

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, ni fydd teuluoedd lle mae’r cyflog uchaf â chyflog o hyd at £60,000 y flwyddyn yn destun Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC). Yn flaenorol, byddai unigolyn ag incwm blynyddol o £50,000 neu fwy yn agored i dalu’r tâl os oedd ef neu eu partner yn cael Budd-dal Plant.

Meddai Laura Trott, Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys: "Rydyn ni’n dod â’r annhegwch yn y system budd-dal plant i ben, ac o ganlyniad ni fydd yn rhaid i 170,000 o deuluoedd ad-dalu budd-dal plant, a bydd bron i hanner bron i hanner miliwn o deuluoedd yn arbed tua £1,300 ar gyfartaledd y flwyddyn nesaf.

"Mae hanes y pandemig a’r rhyfel yn Wcráin wedi rhoi pwysau ar gostau byw pawb. Ond, drwy wneud penderfyniadau anodd, mae’r economi yn dechrau troi cornel, a gallwn nawr ddarparu cymorth bellach i rieni."

I’r rhai sy’n ennill rhwng £60,000 ac £80,000, mae swm y Budd-dal Plant y mae ganddynt hawl i’w gael yn lleihau wrth i incwm gynyddu o fewn yr ystod hon. Os yw incwm unigolyn yn fwy na £80,000, bydd yr HICBC yn hafal i’r taliad Budd-dal Plant. Gall rhieni sy’n gwneud hawliad ac yna’n dewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant gael credydau Yswiriant Gwladol os nad yw un rhiant yn gweithio.

Gall rhieni sydd ag incwm dros £50,000, sy’n adfer eu Budd-dal Plant cyn 6 Ebrill 2024, fod yn destun taliadau HICBC os ydynt yn dewis dechrau taliadau ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024. Ar gyfer hawlwyr newydd sy’n hawlio Budd-dal Plant ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, bydd unrhyw rwymedigaethHICBC yn seiliedig ar drothwy newydd 2024 i 2025 o £60,000 i £80,000.

Mae rhagor o wybodaeth i'w chael ae GOV.UK. Chwiliwch am 'Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.'

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni