Ar-lein, Mae'n arbed amser
Enillwch wobr wrth ymgeisio am Her Haf y Teulu Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 30 Gorff 2019

Mae’r cwest ar y gweill yr haf hwn i ddod o hyd i deulu mwyaf heini Merthyr Tudful!
Mae amrywiaeth cyffrous o weithgareddau am ddim, awyr agored gan fwyaf, yn cael eu cynnig mewn parciau a mannau gwyrdd eraill ledled y fwrdeistref sirol – ac mae’n bosibl i’r teuluoedd sy’n cymryd rhan ym mhob un ohonynt, ennill gwobr.
O deithiau natur i seiclo llwybrau, a helfa drysor i geogelcio, mae tîm Heini Merthyr y Cyngor yn anelu at sicrhau na fydd neb yn diflasu dros chwe wythnos gwyliau’r haf.
Mae Her Haf y Teulu’n cynnwys cyfle i:
• fforio trywydd yr anifeiliaid ym Mharc Cyfarthfa
• treulio’r dydd yn seiclo ar hyd llwybrau prydferth lleol
• mynd am dro natur o gwmpas y llyn ym Mharc Taf Bargoed
• darganfod geogelcio – helfa drysor ddigidol – ledled Merthyr Tudful
• mwynhau picnic a threulio’r pnawn yn chwarae ym Mharc Thomastown
• mynd i nofio yng Nghanolfan Hamdden Merthyr a Chanolfan Gymunedol Aberfan, ble ceir sesiynau nofio am ddim yn ystod y gwyliau (noder – rhaid i oedolion dalu i nofio)
• cael hwyl ym Mharc Garwnant
• mynychu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, digwyddiad am ddim ym Mharc Cyfarthfa ddydd Mercher 7 Awst
Er mwyn cael cyfle i ennill bwndel o offer chwaraeon i’r teulu, ymgeisiwch am y gystadleuaeth drwy gymryd rhan yn yr holl weithgareddau ar y cerdyn her. Gallwch lawrlwytho’r cerdyn her isod neu ei gasglu yn ystod digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar Awst 7.
Yna tynnwch ffotograff o’r cerdyn wedi ei gwblhau a’i uwchlwytho i Facebook neu twitter a thagiwch @activemerthyrtydfil Neu, gallwch e-bostio’r ffotograff i active.merthyrtydfil@merthyr.gov.uk
Bydd her yr haf yn rhedeg drwy gydol mis Awst a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 8 Medi.