Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae menyw o Trelewis yn cael dirwy o £ 400 am dipio anghyfreithlon
- Categorïau : Press Release
- 03 Maw 2020

Diolch i wyliadwriaeth preswylydd lleol, mae gwraig o Drelewis wedi derbyn dirwyo o £400 am dipio anghyfreithlon.
Cafodd Hysbysiad Cosb Benodedig ei chyflwyno yn dilyn archwiliad i dipio anghyfreithlon yn Nheras Tir Derw, Treharris. Derbyniodd y troseddwr yr HCB ac mae taliad wedi cael ei wneud i’r awdurdod.
Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, aelod sydd â phortffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdogol: “Rydym yn trin tipio anghyfreithlon fel achos difrifol iawn ac rydym yn gwneud pob dim yn ein pwer i fynd i’r afael ag ef.”
“Rydym yn annog aelodau o’r cyhoedd i ddod atom â gwybodaeth sydd ganddynt am dipio anghyfreithlon a allai’n cynorthwyo i ymdrin â rhagor o erlyniadau a gwneud Merthyr yn le glanach, mwy gwyrdd i fyw.”
Wedi gweld? Rhowch wybod! merthyr.gov.uk/fly-tipping