Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwaith i gychwyn ar bont droed Rhydycar

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Tach 2022
Avenue de Clichy

Mae’r gwaith ar fin cychwyn ar newid y bont droed sy’n cysylltu Pentref Hamdden Merthyr, Rhydycar gyda chanol y dref.

Bydd y bont droed o’r system gylchol ar Avenue De Clichy ar gau yn ystod 6 wythnos y gwaith, yn cychwyn ddydd Llun nesaf, Tachwedd 21. Bydd defnyddwyr yn gallu croesi’r ffordd i’r llwybr ar yr ochr arall.

Mae’r bont bresennol sy’n croesi’r Afon Taf yn cael ei defnyddio’n helaeth ond mae cyfyngiad uchder arni ac mae’n rhy gul i gerddwyr a seiclwyr i groesi ei gilydd. Mae’r strwythur newydd yn cael ei adleoli ychydig i’r gogledd a bydd yn 3.5 metr o led, gan alluogi cerddwyr a seiclwyr i groesi'r un pryd.

Mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid Teithio |Llesol  gan Lywodraeth Cymru am y project.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh Geraint Thomas: “Rydym eisiau gwneud bywyd yn haws i bobl sy’n croesi’r bont mewn cadair olwyn neu fygi ac eisiau annog seiclwyr ac eraill yn defnyddio'r Daith Taf i ddod i ganol y dref.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni