Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gorymdaith Yes Cymru - dydd Sadwrn 7fed Medi 2019
- Categorïau : Press Release
- 04 Medi 2019
Hysbyswyd CBS Merthyr Tudful y bydd ‘Yes Cymru’ yn gorymdeithio drwy Ferthyr Tudful ddydd Sadwrn 7 Medi 2019.
Amcangyfrifir y bydd tua 5,000 o bobl yn bresennol felly – er diogelwch y cyhoedd – bydd yn angenrheidiol cau nifer o’r ffyrdd.
Caiff ffyrdd eu cau o 11.45am a bydd yr orymdaith yn dechrau am 12 o Sgwâr Penderyn ar hyd Avenue De Clichy, Heol Joseph Parry, Stryd Nantygwenith, Stryd Dixon gan ddychwelyd i Sgwâr Penderyn, drwy Avenue De Clichy a thu cefn i’r Ganolfan Ddinesig. Ar ôl cyrraedd Sgwâr Penderyn bydd siaradwyr ar falconi Redhouse ac, o ganlyniad, bydd y Stryd Fawr hefyd ar gau i gerbydau o 1.45pm tan tua 3.30pm.
Ein gobaith yw y bydd cyn lleied o darfu ag sy’n bosibl a chyn gynted ag y bydd y person olaf wedi pasio’r ffordd gau caiff ei hailagor i gerbydau.
Cyngor ar gyfer tacsis yn ystod gorymdaith Yes Cymru:
Bydd y ranc tacsis yn parhau ar agor yn Lôn yr Ysgub Wenith a bydd gweithredwyr Rheoli Traffig yn caniatáu cerbydau i droi i’r dde, dros dro, wrth Fanc Lloyds tra bo’r Stryd Fawr ar gau. Bydd traffig sy’n defnyddio Stryd y Clastir yn gallu gwneud hynny hefyd. Bydd tacsis hefyd yn gallu defnyddio’r dargyfeiriadau lleol o gwmpas y dref.
Diolch am eich cydweithrediad.