Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae gwaith adnewyddu adeilad y YMCA yn parhau.
- Categorïau : Press Release , Council
- 15 Tach 2023

Mae Rhan Dau o adnewyddiad adeilad y YMCA gynt, ym Mhontmorlais, bron wedi ei gwblhau.
Mae’r adeilad rhestredig Gradd II, sydd wedi bod yn dadfeilio ers dros ddegawd, wedi ei sefydlogi erbyn hyn ac mae’n dal dŵr. Dyma enghreifftiau o o’r gwaith a wnaed:
- Cyfnewidiwyd gwarddrysau pren am rai newydd, concrid.
- Ail-adeiladwyd adran ogleddol yr adeilad, gyda lloriau pren a welydd i gefnogi to newydd dros dro.
- Ail-adeiladwyd, yn rhannol, muriau cynhaliol.
- Gosodwyd angorau yn y ddaear er mwyn sefydlogi’r tir rhydd/ gwan allanol.
- Gosodwyd angorau Cintec er mwyn cryfhau’r waliau bric allanol
- Ailosodwyd to dros dro, gyda tho dros dro newydd fydd yn para’n hirach.
- Gwaith bric newydd ar ben yr adeilad.
- Adnewyddwyd y terracotta er mwyn diogelu’r blociau terracotta presennol.
- Ail-bwyntiwyd yr adeilad cyfan a rhoddwyd triniaeth i’r adeilad er mwyn lleihau’r peryg o blanhigion yn tyfu eto.
- Gosodwyd ffens fetel newydd er mwyn cyd-fynd â’r gofeb wal sydd yno’n barod.
- Adferwyd y rhodfa at ddefnydd y cyhoedd.
Daeth Rhan Un i ben yn 2014 fel rhan o Fenter Treftadaeth Treflun, cynllun sydd â’r nod o atgyfodi adeiladau hanesyddol ym Mhontmorlais, sydd wedi mynd yn adfeilion, er mwyn gallu eu defnyddio eto. Ariannwyd y cynllun drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri a CADW.
Yn dilyn cwblhau’r cam hwn – disgwylir i gontractwyr fod oddi ar y safle erbyn diwedd Ionawr 2024 – byddwn yn edrych tuag at Gam tri, a fydd yn cynnwys ail-asesiad o ddefnydd yr adeilad yn y dyfodol ac yna cwblhau’r gwaith unwaith y cytunir ar ddefnydd addas.
Meddai Michelle Symonds, yr Aelod Cabinet ar gyfer Adfywio: “Mae’n wych gweld y datblygiadau sydd ar waith yn adeilad y YMCA.
“Nid yn unig ydy cwmni Contractwyr John Weaver wedi llwyddo i sefydlogi’r adeilad ond maent hefyd wedi trawsnewid golwg y lle. Nid yn unig ydy’r adeilad yn llawer mwy diogel, ond mae’r adeilad hefyd yn gain, maent wedi llwyddo i ddod â’r strwythur prydferth yn agosach at ei ogoniant blaenorol.
“Parhaodd agwedd gymunedol y datblygiad yn allweddol i’r gwaith, daeth 90% o ddeunyddiau’r prosiect o’r gadwyn gyflenwi leol. Mae pobl leol hefyd wedi ennill cyfleodd cyflogaeth, yn cynnwys lleoli 5 o bobl a oedd yn ddi-waith cyn hynny, un lleoliad yn Sefydliad Merthyr Tudful ar gyfer y Dall a saith prentis lleol. Atgyweiriwyd hefyd garegwaith ar gartref gofal cyfagos.
Erbyn hyn rydym yn edrych ymlaen at gwblhad y gwaith ac at benderfyniad ynghylch ei ddyfodol.”
Meddai Joan Tamlyn, Rheolwraig Datblygu Busnes a CST i John Weaver (Contractwyr) Cyf: “Rydym yn falch o’r ymgysylltiad cymunedol a’r gwerth cymdeithasol a gynigiwyd yn ystod ein cyfnod yn adnewyddu’r YMCA i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi gallu ymgysylltu gyda dros 200 o blant yn Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful, ysgol gynradd leol sy’n agos at y cynllun, rydym wedi gallu cynnig 8 lleoliad gwaith ar y safle yn ogystal â rhoi’r cyfle i’n prentisiaid mewnol ni i ennill sgiliau gwerthfawr mewn saernïaeth, caregwaith, bricwaith yn ogystal â sgiliau treftadaeth wrth iddynt weithio ar y cynllun hwn.
“Mae wedi bod yn bwysig i ni roi rhywbeth yn ôl wrth weithio yn yr ardal hon, ac rydym wedi gallu rhoi arian i elusen leol ar gyfer y digartref, Loaves and Fishes, ac rydym wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol sydd wedi cynnwys casglu ysbwriel a chynorthwyo’r cartref gofal cyfagos gyda’r gwaith o adnewyddu ei garegwaith, gan roi’r llafur yn rhad ac am ddim. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda’r cyngor ar y cynllun hwn ac yn bleser gweithio o fewn y gymuned leol.”
Crëwyd yr adeilad pedwar llawr a fu gynt yn gartref i’r YMCA - adeilad o ‘bwys rhyngwladol’ a thirnod amlwg ar ochr ogleddol canol y dref - gan y pensaer Cymreig Syr Percy Thomas ym 1911.