Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pobl ifanc sydd â phrofiad gofal ym Merthyr Tudful yn croesawu cynllun i orffen elw o ofal plant

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Chw 2025
mural 2

Y Diwrnod Gofal hwn (21 Chwefror), mae Maethu Cymru Merthyr Tudful yn ymuno â chymuned maethu Cymru i dynnu sylw at fanteision gofal awdurdodau lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru ddechrau'r broses o gael gwared ar elw o'r system gofal plant.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i gael gwared ar elw o ofal preswyl a maeth i blant.

Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, dan arweiniad pobl brofiadol mewn gofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi yn cefnogi pobl ifanc mewn gofal i gadw mewn cysylltiad â'u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a'u hysgol.

Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc â gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol oedd yn aros yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.*

MAE SARAH SY'N OFALWR MAETH YM MERTHYR TUDFUL YN ESBONIO BETH MAE AROS YN LLEOL WEDI EI OLYGU I'R PLANT Y MAE EI THEULU WEDI GOFALU AMDANYNT:

"Mae cadw plant yn lleol yn bwysig oherwydd mae'n golygu bod plentyn yn aros mewn cymuned maen nhw'n gyfarwydd â hi, mae'n caniatáu iddyn nhw aros yn eu hysgol, mae'n caniatáu iddyn nhw gadw cysylltiadau y maen nhw wedi'u datblygu, mae'n golygu eu bod nhw'n agosach at frodyr a chwiorydd ac mae cyswllt yn haws i'w gynnal, mae hefyd yn golygu llai o deithio i'r plentyn."

DYFYNIAD GAN BLENTYN Â PHROFIAD GOFAL O FERTHYR TUDFUL YN TYNNU SYLW AT FANTEISION AROS YN LLEOL.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cadw plant yn lleol achos chi'n gyfarwydd â'r ardal. Os yw plant yn cael eu symud i ffwrdd, efallai y byddant yn teimlo'n ynysig ac yn ofidus. Mae plant yn dod i arfer â lle maen nhw'n byw ac weithiau ddim yn hoffi newid. Mae'n bwysig i fi aros yn lleol achos dwi ddim eisiau newid ysgolion na symud o fy ffrindiau. Rheswm arall yw fy mod yn gwybod fy ffordd o amgylch y gymuned. Os ydych chi'n byw ymhell i ffwrdd, efallai y bydd e'n anoddach cysylltu â'ch teulu. Mae rhai plant wedi cael llawer o drawma yn ystod eu hoes ac efallai y bydd symud ymhell i ffwrdd yn ychwanegu ato. Efallai bod plant eisiau rhedeg i ffwrdd neu actio allan oherwydd eu bod yn anhapus gyda'u lle maen nhw'n byw".

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi cychwyn gyda'r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Ar hyn o bryd mae gennym 83 o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth ym Merthyr Tudful; ac mae angen mwy o ofalwyr maeth arnom i sicrhau bod ein plant i gyd yn cael y gofal a'r cymorth y maent yn eu haeddu.

DYFYNIAD GAN BENNAETH GWASANAETHAU PLANT JO LLEWELLYN

"Y llynedd fe wnaeth rhai o'r plant rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw fel awdurdod lleol ym Merthyr Tudful ysgrifennu cerdd sydd bellach ar furlun yn CPD Tref Merthyr.

Mae'r gerdd hon yn cynnwys y llinellau 'i rannu cyfrifoldeb a lle i orffwys, yn eu tref enedigol yw lle mae orau'.

Mae'n atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi i'n plant gael aros yn eu hardal leol i gynnal eu synnwyr hunaniaeth ac aros yn agos at eu ffrindiau a'u rhwydweithiau cymorth.

Y llynedd yng Nghymru, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc â gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol oedd yn aros yn lleol.

Fel y dengys yr ystadegau, mae plant yng ngofal eu hawdurdod lleol yn fwy tebygol o aros yn lleol, ac rwy'n obeithiol y bydd y polisïau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan raglen Llywodraeth Cymru i gael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yn cynyddu nifer y plant sy'n parhau ym Merthyr Tudful.

Yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, roedd ymrwymiad i flaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi'u lleoli'n lleol, wedi'u dylunio'n lleol, ac sy'n atebol yn lleol ac rwy'n llwyr gefnogi hyn wrth i ni symud dros y blynyddoedd nesaf i gael gwared ar elw preifat o ofal Plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru".

Am fwy o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://fosterwales.gov.wales/  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni