Ar-lein, Mae'n arbed amser

Digwyddiad Arweinwyr Ifanc yn recriwtio dros 170 o ddisgyblion yn Ysgolion Cynradd Merthyr

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Tach 2024
Young Leaders

Cynhaliwyd digwyddiad Arweinwyr Ifanc yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful, Ddydd Iau 7 Tachwedd.

Yn sgil y fenter, dan arweiniad Merthyr Heini, Adran Datblygu Chwaraeon CBSMT, cafodd hyd at 8 o ddisgyblion o bob ysgol gynradd eu recriwtio i gefnogi darpariaeth chwaraeon yn eu hysgolion a reolir gan eu hathrawon ac a gefnogir gan Merthyr Heini.

Arweinwyr Ifanc yw cam cyntaf llwybr arweinyddiaeth chwaraeon Merthyr Heini, sy'n cynnwys rhaglen beilot newydd a fydd yn gweld myfyrwyr TGAU Addysg Gorfforol yn cael cyfle i ennill cymwysterau ychwanegol gan fynd ymlaen i fwydo'r Rhaglen Chwaraeon, Cyflogadwyedd, Hyfforddiant ac Uwchsgilio ar y cyd (SETUP) a ddarperir gan Merthyr Heini a Choleg Merthyr.

Mae'r rhaglen olaf eisoes wedi arwain at nifer o bobl ifanc yn mynd i leoliadau galwedigaethol a derbyn cyfleoedd cyflogaeth achlysurol mewn chwaraeon cymunedol, yn ogystal â rhoi buddsoddiad i fyfyrwyr gan yr Awdurdod Lleol i lansio prosiectau cymunedol newydd. Roedd myfyrwyr o'r rhaglen SETUP hefyd yn rhan o'r diwrnod ac yn arwain gweithgareddau ar gyfer eu harweinwyr newydd.

Eleni, mae Merthyr Heini hefyd wedi cyflwyno ymgyrch recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr newydd, gan roi cyfle i glybiau gysylltu ag unigolion sydd am lenwi rolau gwirfoddol. Yn ogystal, mae calendr addysg i gefnogi uwchsgilio gwirfoddolwyr yn cael ei ddatblygu, gan sicrhau bod ganddynt y ddarpariaeth angenrheidiol i lwyddo yn eu rolau.

Bydd rhaglen gwirfoddolwr y mis hefyd yn parhau, gan gydnabod a dathlu'r unigolion ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned. Mae ffocws hefyd yn cael ei roi ar recriwtio gwirfoddolwyr ymhlith ein poblogaeth dros 60 oed ac anabl, gyda'r nod o ddarparu cyfleoedd cynhwysol i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg, "Mae chwaraeon mewn ysgolion cynradd yn hanfodol ar gyfer datblygiad corfforol, meddyliol a chymdeithasol plant. Mae'n hyrwyddo ffordd iach o fyw, gwaith tîm a gwydnwch.

"Mae'r fenter hon yn arbennig, yn yr ystyr y bydd hefyd yn help i feithrin hyder a sgiliau arweiniol yr Arweinwyr Ifanc hynny. Da iawn i'r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y digwyddiad hwn. Rwy'n gobeithio y bydd pawb a oedd yn bresennol yn ei fwynhau."

Ychwanegodd y Cynghorydd Jamie Scriven, Aelod Cabinet dros Adfywio, "Rydym yn falch I gyhoeddi bod y rhaglen wedi llwyddo i recriwtio hyd at 8 disgybl o bob ysgol gynradd i gynorthwyo i ddarparu gweithgareddau chwaraeon yn eu hysgolion. Rheolir y disgyblion hyn gan eu hathrawon a'u cefnogi gan Merthyr Heini gan ganiatáu iddynt gyfrannu at ddatblygu darpariaeth chwaraeon a meithrin cariad at weithgarwch corfforol ymhlith eu cyfoedion.

"Rydym yn falch o gefnogi ac annog cyfranogiad pobl ifanc wrth hyrwyddo ffordd o fyw iach ac egnïol o fewn eu cymunedau ysgol."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni