Ar-lein, Mae'n arbed amser
Disgleiriodd Ein Harweinwyr Ifainc Mewn Digwyddiad Llwyddiannus yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 17 Medi 2026
Dydd Iau’r 17eg o Fedi, croesawodd Canolfan Hamdden Merthyr Tudful dros 120 o ddisgyblion o ysgolion cynradd ledled y fwrdeistref sirol er mwyn lansio’r rhaglen Arweinwyr Ifainc. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i arweinwyr ifainc y dyfodol ddatblygu sgiliau newydd, meithrin hyder a darganfod pa fodd y gallant gael effaith gadarnhaol drwy gyfrwng chwaraeon yn eu hysgolion.
Ffurfia’r rhaglen rhan o lwybr arweinyddiaeth a ddatblygwyd gan Heini Merthyr, adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Dyluniwyd y rhaglen er mwyn darparu ysgolion cynradd gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i gefnogi darpariaeth chwaraeon o fewn eu hysgolion drwy ganolbwyntio ar ddysgu ymarferol a datblygiad personol. Drwy gydol y diwrnod, cymerodd y plant ran mewn gweithdai rhyngweithiol a chafwyd cyfle i wrando ar siaradwyr gwadd, er mwyn paratoi’r disgyblion ar gyfer eu swyddogaethau arweinyddol newydd a’u hysbrydoli i fod yn arweinwyr chwaraeon yn y dyfodol.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Lewis, yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg: “Mae’n ffantastig gweld cymaint o bobl ifainc sy’n frwdfrydig dros ddatblygu eu sgiliau arweiniol ac sydd am gael dylanwad cadarnhaol ar gymunedau eu hysgolion.
“Rhy’r rhaglen Arweinwyr Ifainc gyfle i’r disgyblion feithrin hyder, dysgu sgiliau bywyd pwysig ac ystyried o ddifrif beth yn union yw arweinyddiaeth o fewn chwaraeon. Rydym wedi ymrwymo at eu helpu i gyrraedd eu potensial a’u cefnogi bob cam o’r ffordd.”
Siwrnai gyffrous sydd ond megis cychwyn i’r arweinwyr ifainc oedd y digwyddiad hwn, gydag ystod o ddigwyddiadau ac adnoddau wedi eu trefnu ar gyfer y flwyddyn sydd ar gyrraedd. O ymweliadau bob tymor a gwahanol leoliadau hyd ymweliadau i sefydliadau lleol, dyluniwyd y rhaglen i ddarparu amgylchedd cynhwysfawr a chefnogol er mwyn i ddisgyblion allu ffynnu a datblygu.
Enghraifft ddisglair yw’r rhaglen Arweinwyr Ifainc o ymrwymiad Merthyr Tudful at alluogi’r genhedlaeth nesaf a darparu cyfleoedd i bobl ifainc allu ffynnu.
Fel y dywedodd y Cynghorydd Jamie Scriven, yr Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi, Adnewyddi, Hamdden a Thwristiaeth pan ychwanegodd: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r bobl ifainc hyn wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau a’u hyder yn arweinwyr y dyfodol. Mae eu brwdfrydedd a’u hymroddiad yn ein hysbrydoli, ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol bydd y disgyblion hyn yn ei gael yn eu hysgolion, eu cymunedau a thu hwnt.”