Ar-lein, Mae'n arbed amser

Agoriad Swyddogol Ysgol Gynradd Y Graig gan yr actor Steve Speirs

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Medi 2023
DSC07022

Er i ysgol Y Graig, sy’n ysgol o’r radd flaenaf a adeiladwyd ar hen safle Ysgol y Faenor a Phenderyn yng Nghefn Coed, agor ei ddrysau i ddisgyblion ym Medi 2021, agorwyd y safle’n swyddogol heddiw gan yr actor a’r awdur Steve Speirs.

Ers 2021 mae’r ysgol wedi ennill sawl clod, gan gynnwys Gwobr Eco-Ysgolion Platinwm, a roddwyd oherwydd iddynt ddatblygu tiroedd yr ysgol er mwyn cynnal Ysgolion Coedwig, Gwobr Campws Arian Cymraeg a Gwobr Addysgu Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg (STEM).

Mae’r ysgol wir yn Ysgol sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned, gyda’i hystafell gymunedol ei hun ar y safle lle gall rhieni a’r gymuned ehangach fanteisio ar y cyfle i ymwneud ag ystod o weithgareddau yn ystod, a thu hwnt, i’r diwrnod ysgol. Codwyd dros £9,000 drwy ddigwyddiadau cymunedol a gynhaliwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r bwriad o gefnogi gwaith cymunedol pellach.

Yn ystod yr ymgynghoriad gyda disgyblion, rheini a thrigolion yr ardal daeth i’r amlwg ei fod yn bwysig iddynt nad oedd hanes yr ysgol yn mynd yn angof, felly sefydlwyd Cwpan Coffa Howard Barrett ar gyfer diwrnod mabolgampau er cof am y cyn-Faer, y cynghorydd lleol ac aelod o fwrdd llywodraethol yr ysgol. Ceir hefyd mainc goffa a choeden er cof annwyl am y cyn-Bennaeth Matthew Harries. 

Wrth siarad mewn gwasanaeth ysgol gorlawn, dwedodd Steven Speirs: “Braint yw cael fy ngwahodd yma heddiw i fod yn rhan o’r dathliad hwn.

“Mae’n llenwi fy nghalon â llawenydd a balchder aruthrol i sefyll yma, yn dyst i wireddiad breuddwyd hir, annwyl a fydd, heb os, yn siapio dyfodol cymuned Cefn Coed.

“O’i sylfeini i’w uchelfannau, adlewyrcha’r adeilad hwn y sylfaen gadarn gobeithiwn ei ddarparu i’n plant, sylfaen a wnaed o gariad, trugaredd a chynhwysiad.”

Wrth siarad yn uniongyrchol â’r disgyblion, ychwanegodd: “Chi yw’r hyn sy’n rhoi bywyd i’r ysgol hon. Crëwch eich breuddwydion eich hun – mae’r dyfodol yn ddisglair ac mae’n perthyn i chi.”

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Jones, yr Aelod Cabinet ar gyfer Dysgu: “Roedd heddiw yn ddiwrnod llawn balchder i bawb sy’n ymwneud â’r ysgol.

“Diolch yn fawr iawn i bawb am sicrhau diweddglo llwyddiannus i’r prosiect hwn, yn arbennig cwmni Keir Construction am ymgymryd â’r gwaith o adeiladu’r cyfleuster newydd hwn sy’n sicr yn ymateb i weledigaeth yr ysgol: Agor Llygaid, Datblygu meddyliau a Newid bywydau.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni