Ar-lein, Mae'n arbed amser
Grant Hanfodion Ysgol (grant gwisg ysgol)
Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru – Mynediad 2024/25 (01.07.24-31.05.25)
Mae Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru yn helpu disgyblion cymwys i gael gwisg ysgol, offer, cit chwaraeon, a chit ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol i’ch plentyn. Mae’r cynllun wedi ei dargedu’n benodol ar gyfer disgyblion sy’n gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim (ond nid wedi eu diogelu o ran statws Prydau Ysgol am Ddim).
Mae blynyddoedd ysgol newydd yn gymwys bellach, ac mae’r maen prawf wedi ei estyn i gynnwys gliniadur neu lechen.
Gall dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim wneud cais am y grant hwn os ydyn nhw:
- yn y dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd
- ym mlynyddoedd ysgol 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 ac 11
- mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion a’u bod yn 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed
Ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7, £200 yw’r grant, sy’n cydnabod y cynnydd o ran cost sy’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd. Ar gyfer yr holl grwpiau blwyddyn eraill, £125 yw’r grant.
Mae arian ar gael i blant sy’n derbyn gofal ym mhob blwyddyn ysgol.
Bydd yr awdurdod lleol yn asesu pa ddisgyblion sydd â’r hawl i gael y grant hwn yn seiliedig ar eu hawl am brydau ysgol am ddim. Yna caiff yr holl ddisgyblion cymwys ffurflen gais oddi wrth eu hysgol bresennol. Caiff taliadau banc uniongyrchol eu gwneud i’r ymgeiswyr ar ôl derbyn y ffurflen gais wedi ei chwblhau.
Mae hawl gan deuluoedd hawlio un waith am bob plentyn, am bob blwyddyn ysgol yn unig.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y grant hwn gallwch e-bostio PDGAccess@merthyr.gov.uk