Ar-lein, Mae'n arbed amser

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg Cymru yn gynllun sy'n cael ei redeg gan y Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu cymhelliad i bobl ifanc sy'n dymuno parhau mewn addysg ar ôl oedran gadael ysgol i ennill dyfarniadau trwy bresenoldeb da a chyflawni amcanion a gytunwyd o flaen llaw. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Mae rhieni/gwarcheidwaid plant sy'n aros yn yr ysgol ar ôl oedran statudol gadael ysgol yn gymwys i gael eu hystyried am ddyfarniad o lwfans cynhaliaeth. Mae grantiau'n daladwy yn unol â'r graddfeydd a luniwyd gan yr AALl ac yn amrywio yn ôl amgylchiadau teulu ac oedran y disgybl, (ceir un raddfa i ddisgyblion sy'n un deg chwech mlwydd oed ar ddechrau'r tymor ac un arall i rai un deg saith blwydd oed a hŷn).

Mae'r cymhorthdal fel arfer yn daladwy bob tymor yn fuan wedi i'r tymor ddechrau, yn amodol ar ardystiad gan y pennaeth fod y disgybl yn mynychu a datblygu'n foddhaol ac yn debygol o barhau i wneud hynny nes diwedd y tymor hwnnw.

Rhaid gwneud ceisiadau ar ffurflen "Cymorth Ariannol"  sydd ar gael gan y Gwasanaethau Gofal Plant Integredig, y gellir ei lawr lwytho oddi ar ein gwefan neu sydd ar gael gan yr ysgol berthnasol.

Mae gan bob ysgol ei threfniadau ei hun ar gyfer cymorth gyda'r mater hwn a dylai rhieni holi'r ysgol berthnasol am fanylion.

Ysgol Uwchradd Afon Taf 
01443 690401                          
office@afontaf.merthyr.sch.uk

Ysgol Uwchradd Bishop Hedley 
01685 721747  
office@bishophedleyhigh.merthyr.sch.uk

Ysgol Uwchradd Cyfarthfa 
01685 721725
office@cyfarthfahigh.merthyr.sch.uk

Ysgol Uwchradd Pen Y Dre
01685 721726
office@penydre.merthyr.sch.uk