Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sach Gwastraff Gardd Amldro Gwyrdd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn am Sach Gwastraff Gardd Amldro Gwyrdd.

Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff gardd dymhorol yn dod i ben ddydd Gwener Rhagfyr 1 2023 ac yn ail gychwyn ddydd Llun Ebrill 1 2024. Derbynnir gwastraff gwyrdd o’r ardd trwy’r flwyddyn yn y canolfannau Casglu Gwastraff Cartref (CCGC).

Fel arfer mae eich casgliad gardd tymhorol ar yr wythnos gyferbyniol, ond yr un diwrnod â’ch casgliad bin olwynion, fodd bynnag, ceir eithriadau i hyn felly gallwch wirio ar ein canfyddwr cod post neu gallwch gysylltu â Wasteservices@merthyr.gov.uk

Bydd casgliadau’n cael eu gwneud pob pythefnos o’ch dyddiad dechrau.

Bydd gwastraff gardd sy’n cael ei gasglu ar wahân yn cael ei danfon i ganolfan leol a’i droi’n gompost. Mae’r compost hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwella’r pridd ar gyfer nifer o brosiectau gwella’r pridd gan drawsffurfio ardaloedd yn gynefinoedd natur sy’n weledol bleserus.  

Mae’ch cefnogaeth yn hyn o beth yn gymorth er mwyn osgoi defnyddio safleoedd tirlenwi i waredu’r adnodd defnyddiol hwn ac mae’r ynni o’r gwastraff yn darparu cynnyrch o ansawdd da ac sy’n ddefnyddiol.

OS GWELWCH YN DDA!

  • Dail
  • Blodau
  • Planhigion
  • Chwyn
  • Gwair
  • Toriadau perthi
  • Toriadau coed a llwyni
  • Brigau bach

DIM DIOLCH!

  • Brigau mawr/boncyffion**
  • Pridd a thywarch**
  • Planhigion ymledol (llysiau’r dial, efwr, llysiau’r gingroen)
  • Cerrig**
  • Gwastraff cartref*
  • Gwastraff bwyd (defnyddiwch eich bin gwastraff bwyd)
  • Gwastraff anifeiliaid (gellir rhoi meintiau bach yn eich bin olwynion)
  • Pren**

* Defnyddiwch eich bin olwynion

** Ewch ag ef i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref

Casgliad Gwastraff Gwyrdd Swmpus

Rydym yn gweithredu casgliad gwastraff gwyrdd swmpus sy'n £49.07 am bob llwyth cerbyd. Er mwyn trefnu casgliau, cysylltwch a'r ganolfan alwadau ar 01685 725000.